Cwmni cyfreithiol lleol yn dathlu ei flwyddyn gyntaf o weithredu
Claire Myatt ac Andrew NelsonMae dau gyn-fyfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 yn dathlu pen-blwydd cyntaf sefydlu eu cwmni cyfreithiol eu hunain y mis hwn. Mae , o Gyffordd Llandudno, yn delio 芒 phob agwedd ar gyfraith sifil ac maent yn gwmni modern sy鈥檔 defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf er budd eu cleientiaid.
Roedd Andrew Nelson a Claire Myatt yn rhan o'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i raddio o yn y Brifysgol wedi iddi gael ei sefydlu yn 2004.
Yn dilyn gyrfa 8 mlynedd yn y Fyddin a 12 mlynedd fel Hyfforddwr Mynydda, roedd Andrew eisiau newid gyrfa鈥檔 llwyr ac eisiau gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Ar 么l cyfnod o brofiad gwaith gyda'r CPS, a oedd yn cynnwys mynychu llys y goron, cafodd ei ysbrydoli i fod yn fargyfreithiwr.
Meddai Andrew am ei gyfnod ym Mangor: "Cefais amser anhygoel yn ystod fy nhair blynedd ym Mangor. Rwy鈥檔 cofio bod yn hynod o nerfus pan ddaeth yn ddiwrnod canlyniadau, yn enwedig gan fod angen 2.1 i fynd ymlaen i Ysgol y Bar. Un o鈥檙 uchafbwyntiau oedd trip yng nghwmni fy nghyd fyfyrwyr a darlithwyr i Lys Cyfiawnder Ewrop a Llys Hawliau Dynol Ewrop. Bu鈥檔 agoriad llygad arbennig iawn. Rwy'n ddiolchgar i'r Brifysgol am brofiad dysgu gwych sydd wedi bod yn sylfaen ragorol i鈥檓 gyrfa gyfreithiol."
Treuliodd Claire, sydd 芒 thri phlentyn, 19 mlynedd fel gwas sifil yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd hi wastad eisiau dysgu mwy am y gyfraith. Edrychodd Claire i mewn i'r posibilrwydd o astudio am Lefel A mewn dosbarth nos yng Ngholeg Llandrillo, ond darganfu nad oedd opsiwn o'r fath i鈥檞 gael. Fodd bynnag, roedd cwrs HNC undydd yr wythnos yn cael ei gynnig. Trafododd gyda'i chyflogwr i gael amser o鈥檌 gwaith i fynychu'r cwrs ac fe wnaeth Claire fwynhau鈥檙 profiad dysgu yn fawr iawn. Flwyddyn yn ddiweddarach, gwelodd hysbyseb yn y papur lleol am y cwrs gradd newydd yn y gyfraith ym Mangor a phenderfynodd mai hwn oedd y cam rhesymegol nesaf ei thaith ddysgu.
Meddai Claire: "Drwodd a thro, cefais brofiad gwych ym Mangor. Y ni oedd y garfan gyntaf i raddio yn y gyfraith, ac er ei bod yn garfan amrywiol o bob oedran gyda chymysgedd o rai newydd adael yr ysgol a myfyrwyr h欧n, roedd pawb yn cyd-dynnu鈥檔 wych ac mae llawer yn dal i gadw mewn cysylltiad."
Ar 么l graddio yn 2007, aethant i Brifysgol Fetropolitan Manceinion i wneud Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar ac yna bu鈥檙 p芒r yn gweithio gyda gwahanol gwmn茂au cyn sefydlu eu cwmni eu hunain.
Meddai, Aled Griffiths, Uwch Ddarlithydd ar y pryd:
"Roedd Claire ac Andrew yn aelodau ein blwyddyn gyntaf un o fyfyrwyr y gyfraith. Roedd y gr诺p penodol yma yn wych ym mhob ystyr ac roeddem yn ffodus iawn i gael dechrau mor dda. Mae'n golygu ein bod wedi sefydlu enw da o'r dechrau ac mae'n dal i ddatblygu. Roedd nifer o rai newydd adael ysgolion lleol, yn ogystal 芒 myfyrwyr h欧n fel Claire ac Andrew, yn y gr诺p, ac roeddynt i gyd yn cyd-dynnu'n wych ac yn gwthio ei gilydd. Mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i wneud marc yn y proffesiwn cyfreithiol, fel darlithwyr, cyfreithwyr neu weinyddwyr, ac mae Claire ac Andrew yn enghreifftiau da iawn.
"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn gwneud yn dda iawn yn eu practis newydd oherwydd roeddent yn cyd-dynnu鈥檔 dda gyda phobl, yn gweithio'n galed a chyda diddordeb mawr ym mhob agwedd ar y gyfraith."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2015