Cwrs Preswyl Cymraeg yn denu dros 160
Rhwng 14-18 Tachwedd, daeth dros 160 o ddisgyblion lefel 鈥楢鈥 Cymraeg 鈥 iaith gyntaf ac ail iaith 鈥 ynghyd i wersyll yr Urdd, Glan-llyn ar gyfer cwrs preswyl a drefnir ar y cyd gan yr Urdd ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊.
Meddai鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
鈥淯nwaith eto eleni, roedd y cwrs yn llwyddiant ysgubol a pharatowyd arlwy amrywiol a chyfoethog ar gyfer y disgyblion a鈥檜
hathrawon gan awduron ac arbenigwyr fel Manon Steffan Ros, Ifor ap Glyn, Myrddin ap Dafydd, Karen Owen a Menna Baines. Caed cyfle hefyd nid yn unig i glywed aelodau o staff Ysgol y Gymraeg fel Angharad Price, Jason Walford Davies, Manon Wyn Williams ac Aled Llion Jones ond hefyd Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Llion Jones, a myfyrwyr ymchwil fel Gruffudd Antur ac Elis Dafydd, dau o brifeirdd Eisteddfod yr Urdd.鈥
Un o uchafbwyntiau鈥檙 cwrs bob blwyddyn yw鈥檙 Talwrn a dyfernir replica o gadair a wnaed gan y gof, Angharad Pearce Jones. Yn y llun, gwelir yr enillydd, Meleri Williams o Ysgol Gyfun G诺yr yng nghwmni鈥檙 Athro Jason Walford Davies. Llongyfarchiadau calonnog iddi!
Ychwanegodd Gerwyn Wiliams:
鈥淢ae Meleri mewn olyniaeth gref oherwydd yn y blynyddoedd diwethaf, aeth enillwyr y gadair hon 鈥 Iestyn Tyne, Gwynfor Dafydd a Lois Llywelyn Williams - yn eu blaenau i ennill rhyngddynt Goron, Cadair a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd.鈥
Mae鈥檙 neges yn syml felly: os am ragori yn eich arholiadau lefel 鈥楢鈥 ac ennill un o brif lawryfon yr Urdd, dyma鈥檙 cwrs ar eich cyfer chi!
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016