Cydnabod arloesedd yn y bio-economi
Mae鈥檙 Ganolfan Ragoriaeth Bio-buro, BEACON, canolfan ymchwil arloesol sy鈥檔 canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy, wedi ei chynnwys ar y rhestr fer Gwobrau RegioStarts y Comisiwn Ewropeaidd 2014.
Mae Prifysgol 黑料不打烊, drwy鈥檙 , a Phrifysgol Abertawe鈥檔 cyrfannu at y cynllun ar y cyd sy鈥檔 cael ei harwain gan Yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ymchwilwyr yn BEACON yn cydweithio gyda diwydiant, gan gynnwys mentrau bach a chanolig, i ddatblygu deunyddiau adnewyddadwy, tanwydd a chemegau yn ogystal ag addasu a phrosesau newydd sy'n fwy cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol ac economaidd.
Mae'n un o 4 prosiect ar y rhestr fer y dosbarth: "Twf cynaliadwy: twf gwyrdd a swyddi drwy鈥檙 Bio-economi". Yn seiliedig ar bedwar maen prawf allweddol - arloesedd, effaith, cynaladwyedd a phartneriaeth 鈥 mae BEACON yn un o 19 i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer 2014 o blith 80 o brosiectau a gefnogir gan Gronfeydd Cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y rhai sydd drwyddo i鈥檙 rownd derfynol yn arddangos eu gwaith ar 8 Hydref, yn ystod yr 11eg Wythnos Ewropeaidd y Rhanbarthau a鈥檙 Dinasoedd, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ym Mrwsel ar 31 Mawrth 2014.
Dywedodd yr Athro Iain Donnison o IBERS Prifysgol Aberystwyth, a Chyfarwyddwr BEACON: "Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn gydnabyddiaeth ryngwladol o bwysigrwydd y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud gan BEACON.
"Mae'r cysyniad y tu 么l BEACON wedi cael ei yrru gan y targedau heriol ar gyfer mabwysiadu ynni adnewyddadwy a gostyngiadau mewn allyriadau nwyon t欧 gwydr, a osodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd a chan y ddwy her fyd-eang sy'n wynebu dynoliaeth - diogelwch ynni a newid yn yr hinsawdd".
"Mae technoleg sydd yn defnyddio llai o garbon, gan gynnwys bioburo a biotechnoleg ddiwydiannol, yn cael eu gweld fel sectorau twf pwysig a bydd angen cadwyni cyflenwi cynaliadwy er mwyn creu gweithgaredd economaidd a swyddi mewn cymunedau gwledig yn ogystal 芒 threfi a dinasoedd. Dyma sy'n darparu'r ffocws ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud yn BEACON," ychwanegodd.
Dywedodd Adam Charlton, Rheolwr project Beacon ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淎r hyn o bryd, BEACON yw鈥檙 project mwyaf ym maes bioburo yn y DU, ac mae wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn staff ac offer newydd. Mae hyn yn ei dro鈥檔 ein galluogi ni i gynnig galluoedd unigryw i fusnesau yng Nghymru. Mae BEACON yn hybu gallu gwyddonol Cymru ym maes technolegau gwyrdd ar draws y DU, Ewrop, ac yn gynyddol, lleoliadau eraill fel UDA.鈥
Cyllidwyd BEACON drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), rhan o Lywodraeth Cymru, o dan raglen Gydgyfeirio Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
Y tri arall ar y restr fer yw Ecoponto em Casa o Bortiwgal, ORGANEXT o Wlad Belg, yr Almaen a'r Iseldiroedd, ac ARBOR sydd 芒 phartneriaid o'r DG, Iwerddon, yr Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.
Mae'r Gwobrau RegioStars yn cydnabod y prosiectau rhanbarthol mwyaf ysbrydoledig ac arloesol yn Ewrop.
Mae cynrychiolaeth o ddwy wlad ar bymtheg yn y rownd derfynol: Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, yr Eidal, Iwerddon, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Sbaen, Sweden, a'r Deyrnas Unedig.
Ceir rhagor o wybodaeth am BEACON
Mae'r rhestr lawn o'r cynlluniau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a mwy am Wobrau RegioStars ar gael .
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013