Cydnabyddiaeth ryngwladol i Food Dudes
Bydd yr academyddion o Brifysgol 黑料不打烊 sydd y tu 么l i raglen dra llwyddiannus y , sy鈥檔 annog plant ifainc a鈥檜 teuluoedd i ddewis bwydydd iach, i dderbyn gwobr am y modd y maent wedi addasu eu gwybodaeth wyddonol at ddiben ymarferol iawn.
Bydd yr Athro Fergus Lowe a Dr Pauline Horne o Prifysgol 黑料不打烊 yn cael y Wobr Trosi Gwyddonol (Trosglwyddo Technoleg) gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Dadansoddiad Ymddygiadol yn ei chynhadledd flynyddol sydd i鈥檞 chynnal yn Seattle, UDA, ym Mai 2012.
Mae鈥檙 Wobr yn cydnabod datblygiad a lledaeniad rhaglen y Food Dudes. Dyfernir hi i unigolyn neu unigolion yn y sector cyhoeddus neu鈥檙 sector preifat sy鈥檔 ymdrin 芒 phroblemau o bwys cymdeithasol gan ddefnyddio dulliau sydd 芒 chyswllt uniongyrchol 芒 dadansoddiad ymddygiadol neu sy鈥檔 ymgorffori鈥檔 effeithiol egwyddorion ymddygiadol.
鈥淎r adeg y mae gordewdra ar gynnydd ym mhedwar ban byd, a phlant yn amddifad o faetholion pwysig a geir mewn ffrwythau a llysiau, mae SABA yn falch o gydnabod llwyddiannau rhaglen y Food Dudes o ran gwella diet plant yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Sisili ac UDA. Mae鈥檙 ffordd rydych yn integreiddio egwyddorion ymddygiadol trwy gydrannau niferus ymyriadau Food Dudes yn siampl i eraill sy鈥檔 awyddus i gael effaith ar ymddygiad sy鈥檔 bwysig i gymdeithas,鈥 meddai Maria Malott, Ysgrifennydd y Gymdeithas er Hyrwyddo Dadansoddiad Ymddygiadol.
鈥淢ae project y Food Dudes yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang am y modd llwyddiannus iawn y gall wella arferion bwyta. Yn ogystal ag ennill Gwobr gan Sefydliad Iechyd y Byd am ddefnydd yn Iwerddon, ac ennill Gwobr Medal Aur Prif Swyddog Meddygol y DU, mae project y Food Dudes wedi鈥檌 fabwysiadu gan y Comisiwn Ewropeaidd i ddangos sut y gall llywodraethau yn Ewrop ymdrin 芒 gordewdra. Mae hwn yn broject gan Brifysgol 黑料不打烊 a all gael effaith wirioneddol ar iechyd pobl yn y cymdeithasau hynny ym mhedwar ban byd sydd bellach yn wynebu sialens fawr o ran gordewdra. Rwy鈥檔 falch iawn fod yr academyddion dan sylw yn cael cydnabyddiaeth gan eu cydweithwyr proffesiynol yng nghyswllt eu cyfraniadau,鈥 meddai鈥檙 athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊.
Mae cynllun y Food Dudes, sydd wedi鈥檌 anelu at ysgolion cynradd, yn defnyddio pedwar cymeriad cart诺n sy鈥檔 bwyta鈥檔 iach 鈥 y Food Dudes 鈥 ynghyd ag amrediad o ddulliau eraill o newid ymddygiad, i helpu plant i fagu hoffter o ffrwythau a llysiau, a鈥檜 hannog i鈥檞 bwyta gartref ac i ymfalch茂o yn y ffaith eu bod yn bwyta鈥檔 iach.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2011