Cyfalafiaeth ar ymyl y dibyn? - Arglwydd Davies o Abersoch yn trafod
Arglwydd Davies o Abersoch CBE
Bydd yr Arglwydd Davies o Abersoch yn cynnig digon i gnoi cil drosto mewn darlith gyhoeddus ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau, Prifysgol 黑料不打烊 am 6.30 o鈥檙 gloch, nos Iau 11 Hydref. Mae鈥檙 ddarlith, a drefnir gan Brifysgol 黑料不打烊 ar y cyd 芒 Changen Menai, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig, am ddim ac yn agored i bawb.
Mae鈥檙 Arglwydd Davies, sy鈥檔 gadeirydd y Cyngor, sef corff llywodraethol Prifysgol 黑料不打烊, yn fwy na chymwys i drafod cyfalafiaeth, a byd masnach, bancio a chyllid. Mae鈥檔 fancwr rhyngwladol enwog, a bu鈥檔 brif weithredwr Standard Chartered Bank Plc rhwng 2001 a 2006 ac yn gadeirydd y banc rhwng 2006 a 2009. Bu hefyd yn Weinidog dros Fasnach, Buddsoddi a Busnesau Bychain, rhwng Ionawr 2009 a Mai 2010.
Yn ei ddarlith, bydd yr Arglwydd Davies yn canolbwyntio ar y gwersi sydd rhaid eu dysgu yn sgil yr argyfwng economaidd. Meddai: 鈥淒euthum yn agos at ymyl y dibyn ac oherwydd hynny, mae鈥檔 rhaid inni ailystyried ein gwerthoedd.鈥
Ar hyn o bryd, mae鈥檙 Arglwydd Davies yn is-gadeirydd ac yn bartner gyda鈥檙 cwmni Corsair Capital, sef cwmni ecwiti preifat sydd yn arbenigo mewn gwasanaethau ariannol. Mae hefyd yn gadeirydd anweithredol cwmni rheoli asedau PineBridge. Yn 2011, bu鈥檙 Arglwydd Davies yn gadeirydd arolwg cyhoeddus i鈥檙 Llywodraeth ar r么l merched ar fyrddau cwmn茂au yn y DU. Mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol i nifer o gyrff, yn cynnwys Tesco Plc (2003-08) a Chlwb P锚l-droed Tottenham Hotspur (2004-09). Mae鈥檙 Arglwydd Davies hefyd wedi bod yn gadeirydd y 鈥楪enerations Appeal鈥 i鈥檙 elusen Breakthrough Breast Cancer, ac mae鈥檔 un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Kyffin Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012