Cyffro croesawu'r Fflam Olympaidd i Fangor
Bydd arbenigwyr o Brifysgol 黑料不打烊 wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am iechyd a ffitrwydd sydd gennych yn ystod y dathliadau Fflam Olympaidd ym Mangor ar ddydd Llun, 28 Mai.
Bydd aelodau o staff o'r yn y Ganolfan Deiniol drwy gydol y dydd yn cynnal nifer o weithgareddau, gan gynnwys profion cydbwysedd ar 'surfboard' ffug a phrofion amser ymateb.
Maent hefyd yn awyddus i rannu gwybodaeth am yr ymchwil sydd yn cael ei gynnal yn yr ysgol yn ogystal ag esbonio pam fod ymarfer corff mor bwysig i ni i gyd. Efallai bydd hyd yn oed gyfle i chi gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil cyfredol yn y dyfodol.
Dywedodd Jeanette Thom, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol: "Gyda'r fflam Olympaidd yn dod i Fangor mae yn gyfle perffaith i gael pawb yn frwdfrydig am y Gemau Olympaidd - rydym yn edrych ymlaen at arddangos ein gwaith ymchwil ac arbenigedd yn y maes hwn - felly dewch i'n gweld a chanfod pa fath o ymchwil sy'n digwydd o fewn yr Ysgol!"
Bydd hefyd cyfle i blant gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd i Blant ar y lawnt fowlio o 12pm ymlaen.
Am fwy o wybodaeth am y dygwyddiadau sydd yn cael ei cynnal yn ystod y dydd cliciwch yma
i fynd at ein safle mini efo straeon yn ymwneud 芒'r Gemau Olympaidd.
Gwelwch ein
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2012