Cyfle i ddysgu am hanes Cymdeithas myfyrwyr dylanwadol
Cyn aelod yn cyflwyno hanes gogoneddus Cymdeithas y Ddrama Gymraeg
Cynhyrchiad gan y Gymdeithas, ymysg y cast y mae John Ogwen a Maureen Rhys.Yn dilyn ail sefydlu鈥檙 Gymdeithas Ddrama yn 2012 a llwyddiant ei blwyddyn lawn gyntaf o berfformiadau a gweithdai, mae鈥檙 Gymdeithas wedi gwahodd un o鈥檌 chyn aelodau i roi sgwrs ar hanes difyr a dylanwadol y Gymdeithas.
Ar 22 Hydref 2014, bydd Dafydd Glyn Jones, sydd hefyd yn gyn-Ddarllenydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Cymru, 黑料不打烊, ac yn awdurdod cydnabyddedig ar y ddrama Gymraeg yn ymuno ag aelodau鈥檙 Gymdeithas i daflu goleuni ar rai o anturiaethau鈥檙 Gymdeithas er ei sefydlu鈥檔 swyddogol ym 1923 o dan lywyddiaeth R. Williams Parry.
Bydd rhai o鈥檙 aelodau presennol hefyd yn cymryd rhan ar y noson yn perfformio ambell olygfa o rai o鈥檙 dram芒u y bu i鈥檙 Gymdeithas eu llwyfannu yn y gorffennol.
鈥淩ydan ni鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at gael clywed ychydig o straeon a ffeithiau am orffennol y Gymdeithas gan ei bod wedi bod mor ddylanwadol a llwyddiannus yn ei dydd. Rydan ni鈥檔 ffodus iawn hefyd o gael siaradwr gwadd sydd, nid yn unig yn gyn aelod, ond yn ysgolhaig adnabyddus ym maes y ddrama,鈥 meddai Ll欧r Titus, aelod o Bwyllgor cyfredol y Gymdeithas.
Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd JP, Prifysgol 黑料不打烊 am 7:30 o鈥檙 gloch, nos Fercher, 22 Hydref 2014. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn. Mae tocynnau ar gael wrth y drws am 拢3. Estynnir croeso cynnes i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014