Cyfle i ferched ifanc 'ddarganfod gwyddoniaeth'
Tracio DNA rhinoseros, creu dillad clwb nos electronig neu archwilio glannau creigiog- nid dyna鈥檙 ffordd y bydd genethod 14 mlwydd oed yn treulio鈥檜 boreau Sadwrn gan amlaf.
Ond mae 25 o bobl ifanc wedi bachu ar y cyfle i dreulio鈥檜 Sadyrnau鈥檔 dysgu mwy am wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg mewn amgylchedd llawn gwybodaeth a hwyl drwy ymuno 芒 Chlwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched. Mae hwn yn broject ar y cyd rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a Gyrfa Cymru.
Bydd y disgyblion Blwyddyn 9 o ddeg ysgol yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys M么n yn ymweld 芒'r Brifysgol ar gyfer gweithdai amrywiol dros yr wythnosau nesaf, gyda'r amcan o annog merched i barhau i astudio pynciau STEM yn y dyfodol.
Mae'r gweithdai a gynhelir ym Mhrifysgol 黑料不打烊 rhwng 25 Chwefror a 17 Mawrth yn cynnwys: Goleuwch eich bywyd gyda ffasiwn electronig (Ysgol Peirianneg Electronig); Archwilio planhigion ar y tu mewn a鈥檙 tu allan (Ysgol Gwyddorau Biolegol); Cregyn: gemwaith hardd neu anifeiliaid anhygoel? (Ysgol Gwyddorau Eigion); Trosedd Bywyd Gwyllt - Pwy wnaeth? (Ysgol Gwyddorau Biolegol); a Digon i鈥檞 weld ar y glannau creigiog! (Ysgol Gwyddorau Eigion).
Daw鈥檙 rhaglen i ben ar 25 Mawrth gydag ymweliad 芒 Mynydd Gwefru a Gorsaf B诺er Dinorwig yn Llanberis. Yn ogystal 芒 thaith o amgylch y safle a drefnir gan berchnogion y safle, First Hydro, bydd y merched yn cwrdd 芒 pheirianwyr sy鈥檔 ferched ac yn cael cyfle i glywed am eu llwybrau gyrfaol a鈥檜 profiadau.
"Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn falch iawn o gael cynnal y gweithdai hyn am yr ail flwyddyn yn olynol, ac i allu ymestyn y gweithgaredd i 25 o ferched eleni," meddai Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
"Bydd y merched yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a phrofiadau gyda鈥檙 amcan o ddangos iddynt y gwahanol gyrsiau a gyrfaoedd sydd ar gael ym maes gwyddoniaeth. Erbyn diwedd y pum wythnos gobeithir y bydd y merched yn frwdfrydig ac wedi鈥檜 hysgogi gan eu profiadau, ac yn awyddus i barhau i astudio gwyddoniaeth yn y dyfodol ".
Meddai Ffiona Williams, Uwch Reolwr Gyrfa Cymru yn y gogledd orllewin, "Rydym yn gwybod ein bod angen rhagor o bobl ifanc i barhau i astudio pynciau Gwyddoniaeth ar 么l TGAU a Safon Uwch, a bod unigolion sy'n gwneud hynny yn gwella eu rhagolygon am swyddi ar gyfer y dyfodol. Yn gyffredinol nid oes digon o ferched mewn gyrfaoedd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwyddoniaeth, ac mae鈥檙 rhaglen Darganfod Gwyddoniaeth yn ymestyn eu barn am yrfa y tu hwnt i鈥檙 galwedigaethau traddodiadol ym maes gwyddoniaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2012