Cyflogwr y Flwyddyn Gwobrau Chwarae Teg
Aelodau staff Adran Adnoddau Dynol (o'r chwith): Catherine Lees, Nia Meacher a Dr Alison Wiggett gyda chynrychiolw noddwyr Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn, Highgrade Recruitment.: Hwalfraint: Gwobrau 'Womanspire' Chwarae Teg 2016.Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi ennill Gwobr 鈥楥yflogwr y Flwyddyn鈥 (y sector cyhoeddus) yng Ngwobrau 鈥榃omanspire鈥 Chwarae Teg.
Mae鈥檙 cynllun gwobrau newydd hwn yn cydnabod y cyfraniad neilltuol a wneir gan fenywod ym mhob rhan o鈥檙 gymdeithas yng Nghymru a鈥檌 nod yw symbylu menywod y dyfodol i lwyddo a ffynnu. Roedd y categor茂au鈥檔 adlewyrchu amrywiaeth eang o weithgareddau ac yn ffordd o annog ceisiadau gan fenywod o bob oedran ac o bob cefndir sydd yn falch o鈥檙 hyn y maent yn ei gyflawni - boed hynny yn eu bywydau preifat neu broffesiynol neu yn y gymuned ehangach. Yng nghategori Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn roedd Heddlu De Cymru, y DVLA, a Traveline Cymru hefyd wedi cael eu henwebu.
Dywedodd Lyn Meadows, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淒an ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael ein dyfarnu鈥檔 Gyflogwr y Flwyddyn gan ein bod ni wedi gweithio鈥檔 galed yn y Brifysgol i adolygu datblygiad menywod ym mhob agwedd o鈥檔 gweithgareddau, o ddyrchafu uwch aelodau staff i annog merched i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.鈥
鈥淒an ni wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhywiol ac wedi gwneud newidiadau i鈥檔 prosesau sydd wedi arwain yn uniongyrchol at gynnydd yn nifer y menywod sydd mewn uwch swyddi ac sy鈥檔 aelodau o鈥檙 grwpiau sy鈥檔 gwneud y prif benderfyniadau. Dan ni hefyd wedi bod yn rhoi cefnogaeth ymarferol i ddatblygu menywod a鈥檜 gyrfaoedd a dan ni wedi ymrwymo i ddarparu ystod eang o gefnogaeth i staff, gan gynnwys darpariaethau absenoldeb mamolaeth a thadolaeth a chefnogaeth arall i staff sydd efo plant ifanc.鈥
Meddai Joy Kent, prif weithredwr Chwarae Teg: 鈥淩ydym yn falch efo sut aeth y noson Wobrwyo 鈥榃omanspire鈥 gyntaf. Mae wedi bod yn wych clywed gan gymaint o bobl ar y noson ac wedyn, ac mae pawb yn awyddus i weld y digwyddiad yn troi鈥檔 un blynyddol. Os yw Cymru o ddifrif am wneud y defnydd gorau o gyfraniad menywod i鈥檙 gweithle mae鈥檔 rhaid i ni dynnu sylw at yr heriau sydd yn eu hwynebu nhw a dathlu鈥檙 sefydliadau a鈥檙 bobl hynny sydd yn gwneud gwaith da i鈥檞 gorchfygu.鈥
Mae Prifysgol 黑料不打烊 hefyd yr un mor ymrwymedig i hyrwyddo gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM), egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn rhan o fenter Siarter Athena Swan. Mae鈥檙 Brifysgol wedi llwyddo i ennill y Wobr Efydd ac wedi ymrwymo i wella ar hynny. Mae mentrau a phrojectau Athena SWAN yn rhoi sylw i staff a myfyrwyr ac o fudd i鈥檙 naill a鈥檙 llall.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2016