Cyfraniad Graddedigion o 2012
Mewn ymgais i gynnal a gwella鈥檌 henw da am brofiad o鈥檙 safon uchaf i fyfyrwyr, mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cynnig ffioedd hyfforddi o 拢9,000 ar gyfer myfyrwyr is-radd a TAR o Brydain a鈥檙 Undeb Ewropeaidd o 2012. Yn unol 芒 pholisi Llywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr sy鈥檔 byw yng Nghymru yn talu dim ond y ffi gyfredol o tua 拢3,400 y flwyddyn.
Mae鈥檙 Brifysgol wedi cyflwyno nifer o fentrau newydd cyffrous yn ei Chynllun Ffioedd, a gyflwynwyd i鈥檙 Cyngor Cyllido Addysg Uwch (HEFCW) i鈥檞 gymeradwyo.
Meddai鈥檙 Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes: 鈥淢ae 黑料不打烊 wedi ymfalch茂o mewn cynnig profiad dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr erioed, ac er gwaethaf yr hinsawdd gyllidol llawn her, rydym yn hollol benderfynol o gynnal a gwella鈥檙 hyn a gynigiwn. Bwriadwn gynyddu nifer y bwrsariaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, buddsoddi yn yr isadeiledd dysgu, a gwella鈥檔 darpariaeth ar gyfer chwaraeon a hamdden i fyfyrwyr. Mewn cam arloesol, bydd y Brifysgol yn cyflwyno aelodaeth am ddim i fyfyrwyr o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, a mwy o gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli gan fyfyrwyr, a datblygu sgiliau鈥檔 gysylltiedig 芒 chyflogadwyedd.鈥
鈥淩ydym ni eisoes yn buddsoddi鈥檔 helaeth yn natblygiad uchelgeisiol Pontio, sy鈥檔 werth miliynau o bunnoedd. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau addysgu newydd yn ogystal 芒 theatr, lle sinema ac Undeb newydd y Myfyrwyr, a bydd y mentrau ychwanegol yma鈥檔 adeiladu ar y project cyffrous hwn鈥, meddai.
Mae swydd uwch newydd yn cael ei sefydlu, sef Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer myfyrwyr. Bydd yn goruchwylio materion yn ymwneud 芒 myfyrwyr, a chyflwynir swydd newydd Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden hefyd.
Er hynny, nid oedd hyn yn benderfyniad hawdd i鈥檙 Brifysgol. Yng nghyd-destun y gostyngiad sylweddol mewn cefnogaeth gan y llywodraeth i brifysgolion o ganlyniad i鈥檙 newid mewn trefn ffioedd, daeth i鈥檙 casgliad o鈥檌 hanfodd bod angen y lefel yma o ffi er mwyn sicrhau bod profiad ei myfyrwyr yn parhau鈥檔 flaenoriaeth uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011