Cyfraniad Prifysgol 黑料不打烊 at genedl fwyaf newydd Affrica
Ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2011, bydd y byd yn croesawu ei chenedl fwyaf newydd, Gweriniaeth Deheubarth Swdan ( a elwir fel arfer yn Dde Swdan) a anwyd o'r dioddefaint a achoswyd gan ddegawdau o ryfel cartref.
Mae Prifysgol 黑料不打烊, ac yn enwedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD), yn falch o fod wedi chwarae rhan arwyddocaol mewn datblygu'r genedl newydd trwy ei rhaglenni meistr adnoddau naturiol.
Rhwng 2002 a 2009 dyfarnwyd graddau meistr gan ADNODD i ddeg o weithwyr proffesiynol o dde Swdan, ac maent gyd wedi dychwelyd adref i adeiladu eu gwlad newydd. Cawsant eu noddi ar y cyd gan gynllun ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad a chan Windle Trust International, elusen sydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl sydd wedi dioddef yn sgil gwrthdaro yn Affrica鈥檔 cael cyfleoedd addysg a hyfforddiant.
Meddai Mario Konyen, Swyddog Rhaglenni鈥檙 Windle Trust, "Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi chwarae rhan allweddol bwysig mewn meithrin doniau gweithwyr proffesiynol De Swdan "
Bu Caplaniaeth Anglicanaidd y Brifysgol hefyd yn cyfrannu trwy ddarparu llety a lwfans cynhaliaeth fisol i ddau neu dri o鈥檙 myfyrwyr hyn o Dde Sudan yn flynyddol wrth astudio ar gyfer eu MSc.
fel yr esbonia鈥檙 cyn Caplan Anglicanaidd John Butler: " Roedd hyn yn fodd i鈥檙 myfyrwyr nad oedd ganddynt unrhyw gyllid o gwbl, hyd yn oed digon i鈥檞 cynnal, i fynychu Prifysgol 黑料不打烊 a datblygu鈥檙 sgiliau oedd wir angen ar eu gwlad ifanc. "Roedd nifer o鈥檙 myfyrwyr hyn wedi cael eu hastudiaethau yn Juba wedi tarfu arnynt gan y rhyfel gartref, gyda鈥檙 canlyniad nad oedd eu marciau鈥檔 ddigon uchel iddynt dderbyn cyllid drwy ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad neu Adran Datblygiad Rhyngwladol. Er hyn. Fe lwyddodd pawb ac maent bob un mewn swyddi i wneud gwaith cyfrifol dros eu gwlad. Roedd yn amod ar y nawdd eu bod yn dychwelyd i鈥檞 gwlad er mwyn cyfrannu, ac mae hyn yn ein gwneud yn falch iawn ohonynt ac yn ddiolchgar ei fod wedi bod yn bosib rhoi鈥檙 cynllun mewn lle ar yr adeg iawn.鈥
Mae cyn fyfyrwyr 黑料不打烊 yn Ne Swdan yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi i amryw o fudiadau ac asiantaethau datblygu gan gynnwys Banc y Byd, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Prifysgol Joba a鈥檙 Weinyddiaeth Adnoddau Anifeiliaid a Physgodfeydd. Yn eu plith y mae cynghorydd datblygu economaidd, datblygwyr sgiliau, cyfarwyddwr cyffredinol dros dro hyrwyddo buddsoddiadau yn y Weinyddiaeth Fuddsoddi, dadansoddwyr rhaglenni, darlithydd ac ymgynghorydd.
Rhagor o wybodaeth am Windle Trust International:
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2011