Cyhoeddi safle dewisol y Parc Gwyddoniaeth
Heddiw, mae Parc Gwyddoniaeth Menai wedi cyhoeddi mai safle 50 erw yn Gaerwen yw safle dewisol y parc gwyddoniaeth newydd fydd yn gwasanaethu gogledd orllewin Cymru. Mae'r safle, sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys M么n ar hyn o bryd, yn un o dri safle ar Ynys M么n oedd ar restr fer t卯m project y parc gwyddoniaeth.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Cyfarwyddwr y Parc Gwyddoniaeth, "Ar 么l proses fewnol drylwyr, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod gennym safle dewisol i broject y parc gwyddoniaeth, fydd yn allweddol i greu swyddi da yng ngogledd orllewin Cymru. Bydd y parc yn gartref i brojectau ymchwil sy'n gysylltiedig 芒 diwydiant ac ymchwil sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, sydd naill ai'n rhan o Brifysgol 黑料不打烊 eisoes neu'n rhan o fusnesau bach a chanolig neu gwmn茂au mawr. Trwy gynnig adeiladau cyfoes a'r adnoddau diweddaraf, rydym yn gobeithio denu gweithgareddau ymchwil a datblygu busnesau bach a chanolig sydd 芒'r potensial i dyfu a chwmn茂au mawr a rhai o'r ymchwilwyr gorau i Gymru.
"Bydd y parc yn adeiladu ar gryfderau Prifysgol 黑料不打烊 mewn amryw o feysydd ymchwil, yn cynnwys ynni, gwasanaethau amgylcheddol, technoleg l芒n, peirianneg ac electroneg. Mae'r dystiolaeth i gyd yn dangos bod gan y meysydd hyn botensial mawr o ran creu swyddi gyda chyflogau llawer uwch na'r cyflog cyfartalog yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Trwy ddewis Gaerwen fel y safle dewisol, gallwn fanteisio ar y cysylltiadau cryf ag Ynys Ynni M么n a'r ffaith bod Ynys M么n yn ardal fenter ddynodedig. Ond dylid ystyried y parc yn gaffaeliad pwysig i ogledd orllewin Cymru i gyd. Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau cadarnhaol gyda thri awdurdod lleol yn yr ardal, sef Gwynedd, Ynys M么n a Chonwy. Rwy'n sicr y bydd y parc o fudd i ogledd Cymru i gyd wrth iddo ddatblygu.鈥
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn gweithio gydag Ynys M么n, y cwmn茂au cyfleustodau ac ymgynghorwyr i gadarnhau cynigion ar gyfer y safle, yn cynnwys y costau sy'n gysylltiedig 芒'r datblygiad. Bydd rhaid gwneud rhagor o waith hefyd i gadarnhau canlyniadau cychwynnol yr arolwg archeolegol. Gwneir y penderfyniad terfynol am y safle yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013