Cyhoeddiad Busnes Mawr yng Nghynhadledd Caffael Ysgol y Gyfraith
Yn ystod y Gynhadledd cafodd Alun Cairns AS gyfle i ddysgu am broject Bwydydd hyll- siop a gynhelir gan ein myfyrwyr sy'n gwerthu ffrwythau a llysiau rhad.Heddiw, cafwyd cyfres o gyhoeddiadau economaidd enfawr gan Alun Cairns AS, Is-Weinidog Seneddol Swyddfa Cymru, a draddododd anerchiad bwysig yn 鈥淲ythnos Caffael鈥, cynhadledd fawr flynyddol sydd yn cael ei threfnu yng Nghaerdydd gan Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, Prifysgol 黑料不打烊 (SCAC, Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊).
Datgelodd y Gweinidog fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ei ffordd i ragori ar ei tharged i wobrwyo 25% o wariant Llywodraeth Ganolog y DU i Fentrau Bychan a Chanolig (SMEs) cyn diwedd y flwyddyn. Wrth gyfeirio at fentrau sydd yn cael eu harwain gan Weinidog y Swyddfa Cabinet, Francis Maude AS, datgelodd y Gweinidog, allan o 拢50 biliwn o wariant blynyddol ar nwyddau a gwasanaethau, fe fydd Llywodraeth y DU yn gwario dros 拢11 biliwn drwy gontractau wedi eu dyfarnu yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol i Fentrau Bychan a Chanolig. Mae hyn yn ddatblygiad enfawr, ac yn dilyn mentrau allweddol i wella caffael i gynorthwyo Mentrau Bychan a Chanolig i ennill mwy o gontractau cyhoeddus. Mae hyn yn dilyn mentrau eraill a amlinellwyd gan y Gweinidog, megis cynllun y Siopwr Dirgel, sydd yn anelu at adnabod arfer caffael cyhoeddus gwael; diddymu holiaduron Cyn-Gymhwyster ar gyfer holl gontractau gwerth isel, mewn perthynas a hysbysebu holl gontractau dros 拢10,000 o werth. Mae鈥檙 mentrau yma i gyd wedi eu hanelu at gynyddu cyfranogiad busnesau bach i ennill busnes cyhoeddus. Mae鈥檙 mentrau wedi eu croesawu gan SCAC (ICPS), sydd, dros nifer o flynyddoedd yn dilyn ymchwil, wedi argymell fod camau fel hyn yn cael eu cymryd er mwyn dod 芒 thryloywder i farchnadoedd caffael cyhoeddus, a drwy hynny, yn rhoi cyfle i fusnesau llai gael cyfle gwell i ennill contractau cyhoeddus.
Wrth groesawu cyhoeddiadau鈥檙 Gweinidog, anogodd yr Athro Dermot Cahill, Cadair mewn Cyfraith Masnachol, Prifysgol 黑料不打烊, i鈥檙 Gweinidog fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, petai鈥檙 Llywodraeth yn ail ennill grym ar 么l yr Etholiad Cyffredinol, ac i gymryd ysbrydoliaeth o waith SCAC, Prifysgol 黑料不打烊, sydd wedi cynorthwyo awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i leihau鈥檙 amser sydd yn cael ei gymryd i ddyfarnu contractau cyhoeddus i cyn lleied a 40 diwrnod. Mae hyn yn mynd ymhellach nag argymhelliad Llywodraeth y DU o 120 diwrnod.
Fe wnaeth y Gweinidog ddatganiadau mawr eraill, gan gadarnhau fod adeiladwaith carchardy yn Wrecsam o 拢212 miliwn yn cyflogi dros 75% o weithwyr sydd yn ymwneud 芒 chyfnod adeiladwaith y carchar o gefnwlad y carchar, yn cadarnhau fod yr adeiladwr, LendLease, wedi gwneud ymdrech benderfynol i adael marc economaidd parhaol ar yr ardal, yn dilyn ennill y contract i adeiladu鈥檙 carchardy.
Yn olaf, cadarnhaodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn benderfynol i sicrhau fod rheolau taliadau hwyr yn cael eu gorfodi yn drwyadl mewn achosion lle mae鈥檙 sector gyhoeddus yn hwyr yn talu i Fentrau Bychan a Chanolig am nwyddau a gwasanaethau.
Mae Wythnos Gaffael yn parhau yfory efo thema 鈥淪mart Cities鈥, ac ar ddydd Iau, fe fyddent yn edrych ar ddatblygiadau newydd yng Nghyfraith Caffael Ewropeaidd. Mae鈥檙 Wythnos yn gorffen ddydd Gwener drwy edrych ar flaenoriaethau newydd mewn caffael cyhoeddus a mynediad i Fentrau Bychan a Chanolig.
Fe fydd yr Wythnos yn gorffen nos Wener yn Neuadd y Ddinas, gyda鈥檙 Gwobrau Caffael Cenedlaethol, fydd yn cael ei arwain gan Lucy Owen, BBC.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015