Cyhoeddwyd bod cyfrol ddiweddaraf yr Athro Gerwyn Wiliams ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2012
Gerwyn Wiliams yn trafod ei lyfr Rhwng gwibdaith a Coldplay yn ystod yr Eisteddfod y llynedd.Cyhoeddodd Gerwyn Wiliams, aelod o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) haf diwethaf, ac y mae'n cyfleu ei argraffiadau o fywyd teuluol a chyhoeddus gan symud o ran lleoliad o Fae Caerdydd i Ground Zero.
"Mae hon yn gyfrol y cefais wir flas ar ei chyfansoddi a'i chynllunio," meddai'r awdur, "yn enwedig y broses o chwarae gyda ffurf ac archwilio'r tir creadigol ffrwythlon rhwng rhyddiaith a barddoniaeth."
Cyhoeddir enillwyr categori Llyfr y Flwyddyn 2012 - barddoniaeth, ffeithiol a ffuglen - cyn enwi Llyfr y Flwyddyn – teitl Cymraeg a Saesneg - mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 12 Gorffennaf.
Trefnir y gystadleuaeth hon ar ei newydd wedd gan Lenyddiaeth Cymru a cheir mwy o fanylion amdani ar eu gwefan:
Gellir darllen rhagor am Rhwng Gwibdaith a Coldplay ar wefan Gwales Cyngor Llyfrau Cymru:
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012