Cyllid yn cael ei ddyfarnu i gwblhau catalogio papurau Castell Penrhyn
Rhybudd a gyhoeddwyd gan Reolwr Chwarel y Penrhyn ar ddechrau'r streic 3 blynedd.Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi llwyddo i gael grant i helpu i gatalogio gweddill papurau Castell Penrhyn.
Dyfarnodd y Rhaglen Grantiau Catalogio Genedlaethol grant o 拢46,487 i gwblhau catalogio deunydd archifol sy鈥檔 mesur 47 metr ar ei hyd. Bydd y papurau sy鈥檔 ymwneud 芒'r planhigfeydd siwgr yn Jamaica ac yn eiddo i'r teulu Pennant ynghyd 芒 deunyddiau sy'n ymwneud 芒 Streic Chwarel y Penrhyn o 1900-1903 o bwysig arbennig i haneswyr cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r casgliad Penrhyn wedi bod dan ofal y Brifysgol ers dros 25 mlynedd. Mae canran uchel o'r casgliad hwn wedi cael ei gatalogio dros y blynyddoedd ac mae rhai o'r rhestrau hyn, er enghraifft papurau yn ymwneud 芒 Streic Chwarel Bethesda 1900-1903, ar gael ar-lein drwy CALMView (http://calmview.bangor.ac.uk/CalmView/).
Dengys ystadegau bod casgliad y Penrhyn eisoes yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd ac a ddarllenir amlaf gan ddefnyddwyr Archifau'r Brifysgol. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2013-2014, edrychwyd ar 1185 o ddogfennau鈥檙 Penrhyn.
Delwedd a ddaeth o lyfr arolwg o yst芒d y Penrhyn yn dyddio o'r 1920au.Meddai鈥檙 archifydd, Elen Simpson: "Mae鈥檙 galw cyhoeddus am y casgliad pwysig hwn wedi rhoi prif flaenoriaeth iddo ar gyfer catalogio, a dyna sydd tu 么l i鈥檔 penderfyniad i wneud cais am grant gan y Rhaglen Grantiau Catalogio Cenedlaethol ar gyfer Archifau unwaith eto eleni - a diolch byth, y tro hwn, rydym wedi bod yn llwyddiannus.
"Rydym yn hynod o falch ein bod wedi derbyn y cyllid hwn. Mae鈥檔 hen bryd i鈥檙 casgliad pwysig hwn gael ei gatalogio鈥檔 llawn, a鈥檙 gobaith yw y bydd unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn hanes y teulu Pennant yn medru cael mynediad at yr holl ddogfennau yn y casgliad yn fuan iawn.鈥
Bydd y project yn cynnwys cyflogi "Archifydd Project" llawn-amser am 20 mis i gatalogio gweddill y casgliad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff a gwirfoddolwyr yr Archifau er mwyn sicrhau bod pob dogfen yn cael ei rhestru, rhifo a鈥檌 phecynnu mewn bocsys yn unol 芒 safonau archifol.
Bydd y gwaith hwn yn bwysig i ystod eang o haneswyr. Mae gan gasgliad Penrhyn arwyddoc芒d enfawr i dreftadaeth ddiwylliannol Gwynedd, ond bydd y project "Siwgr a llechi: Papurau Pellach Ychwanegol Castell Penrhyn" yn tynnu sylw at ei bwysigrwydd ar raddfa ehangach.
Meddai Einion Thomas, Archifydd y Brifysgol: "Bydd cwblhau'r catalog aml-lefel o gasgliad di-dor yr yst芒d o'r 12fed ganrif i鈥檙 presennol yn rhoi cyfle enfawr ar gyfer ymchwil. Mae'n genhadaeth gan yr Archifau a Chasgliadau Arbennig i fod wrth wraidd ymchwil academaidd o fewn y Brifysgol.
Map o diroedd planhigfa yn Jamaica oedd yn eiddo i'r teulu Pennant yn y 18fed ganrif."Ein nod yw gwneud cyfraniad allweddol i wella profiad y myfyrwyr ac ymwneud mwy gyda'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu boed yn y Brifysgol neu yn y gymuned ehangach. Bydd y project hwn yn ein helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Bydd llawer o weithgareddau estyn allan yn cael eu trefnu o ganlyniad uniongyrchol i'r project hwn er mwyn hyrwyddo mynediad at y casgliad."
Bydd cwblhau'r catalog yn rhoi mynediad at ddeunydd sydd heb ei gatalogio yn flaenorol, a'r hyn sydd wedi bod yn adnodd ymchwil heb ei gyffwrdd i raddau helaeth. Bydd hyn yn ffactor allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiadau ymchwil o fewn y Brifysgol a thu hwnt.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014