Cymdeithas Gomedi 黑料不打烊 yn Cefnogi Seann Walsh
Bydd myfyrwyr y Gymdeithas Gomedi ym Mangor yn perfformio sioe gomedi byw gyda鈥檙 digrifwr enwog Seann Walsh, mewn cydweithrediad 芒 Pontio ar y 6ed o Fai 2013.
Wedi eu harwain gan Patrick 鈥淧addy鈥 Prichard sydd yn fyfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Saesneg ac Astudiaethau鈥檙 Cyfryngau, bydd y gymdeithas hefyd yn cynnal sioe Gala ar yr 22ain o Ebrill a fydd yn cynnwys cystadleuaeth. Bydd yr enillydd, a fydd yn cael ei ddewis gan banel o 3 beirniad yn cynnwys cynrychiolydd o Pontio, yn cael y cyfle i berfformio set i gynhesu cynulleidfa Seann Walsh, ochr yn ochr 芒 ImpSoc (gr诺p comedi ar y pryd sydd hefyd yn perthyn i鈥檙 gymdeithas gomedi).
Mae gan Gymdeithas Gomedi 黑料不打烊 tua 40 o aelodau sy鈥檔 perfformio ar hyn o bryd ac mae鈥檙 gymdeithas wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Maent wedi cyflwyno nifer o sioeau drwy gydol y flwyddyn a hyd yn oed wedi cefnogi Phil Jupitus yng Ng诺yl Gomedi'r Giddy Goat y llynedd. Mae鈥檙 gymdeithas yn gwahodd unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn ysgrifennu, cynhyrchu, perfformio neu gyfarwyddo comedi i gysylltu 芒 nhw neu i fynychu un o鈥檌 sioeau ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau neu eu sioeau yn y Belle Vue ym Mangor Uchaf bob pythefnos.
Mae鈥檙 cyfle i berfformio ar yr un llwyfan a Seann Walsh yn rhoi鈥檙 cyfle i Gymdeithas Gomedi 黑料不打烊 droedio ar y llwybr proffesiynol yn y byd Comedi; diwydiant sydd yn anodd iawn i gael eich pig i mewn iddi. Dywedodd Patrick,
Patrick 'Paddy' Prichard, Cadeirydd y Gymdeithas Gomedi鈥淩wyf wedi bod yn gweithio tuag at gynnal sioe ar y cyd efo Pontio ers i mi gychwyn fel Llywydd y Gymdeithas Gomedi'r llynedd. Rwyf ar ben y byd i fedru cynnig y cyfle anhygoel yma i aelodau鈥檙 gymdeithas a chredaf ei fod yn cyfleu'r camau mawr y mae鈥檙 gymdeithas yn eu cymryd i greu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.鈥
Mae Seann Walsh, seren y rhaglen 鈥淪tand up for the Week鈥 ar Channel 4 yn seren ar ei gynnydd ac yn ffynnu ar anrhydeddau megis Digrifwr y Flwyddyn gan y Leicester Mercury, Enwebiad ar gyfer y Perfformiwr Newydd Gorau Chortle 2010 ac Enwebiad Cyflwynydd Gorau Chortle 2011.
Ychwanegodd Patrick ei fod yn fraint i gael y cyfle hwn. Dywedodd,
鈥淒ymunaf ddiolch yn fawr iawn i Pontio ar ran Cymdeithas Gomedi 黑料不打烊 am ein gwahodd ni i fod yn rhan o鈥檙 digwyddiad yma ac am eu cefnogaeth ac anogaeth. Gobeithiaf y bydd y gymdeithas yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda Pontio ar brojectau eraill tebyg yn y dyfodol!"
Aelodau'r Gymdeithas yn perfformio efo'r digrifwr Phil Jupitus y llynedd.Mae鈥檙 gymdeithas yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn gam enfawr tuag at wireddu eu nod tymor hir. Eglurodd Patrick,
鈥淓in huchelgais yw bod y brif ffynhonnell ar gyfer sioeau comedi a thalent yn ardal 黑料不打烊 ac i fedru rhannu ein gwaith trwy sianeli proffesiynol ac i fynd a鈥檔 comedi i 糯yl Ymylol Caeredin.鈥
Mae tocynnau ar gyfer Seann Walsh ar gael am 拢8 ac yn cynnwys mynediad am ddim i Gala Cymdeithas Gomedi 黑料不打烊, sydd fel arall yn 拢3. Cewch brynu eich tocynnau ar noson y Gala neu drwy鈥檙 Gymdeithas Gomedi yn uniongyrchol.
Fel rhan o Gynllun Pontio, dim ond un o nifer o ddigwyddiadau yw鈥檙 sioe gomedi a fydd yn cael eu cynnal gan Pontio dros y misoedd nesaf. Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Pontio, ewch i鈥檙 wefan: www.pontio.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013