Cymhwyster 脭l-radd yn arwain at waith sy鈥檔 rhoi boddhad i Pam
Meddai Pam Martin am ei gwaith : 鈥淭ydi o ddim yn teimlo fel gweithio- dyna faint dwi鈥檔 ei fwynhau!鈥
Pam MartinErs ennill cymhwyster 么l-radd o Brifysgol 黑料不打烊, mae Pam yn gweithio fel Swyddog Ymchwil a Chydlynydd Treialon yn y Brifysgol. Mae hi ar hyn o bryd yn recriwtio ac yn ymweld 芒 phobol ledled gogledd Cymru, sydd wedi derbyn diagnosis o Glefyd Parkinson neu Alzheimer yn ddiweddar. Mae hi hefyd yn ymweld 芒 phobol nad ydynt wedi cael diagnosis, ac yn ymweld 芒 bron pawb yn eu cartrefi, er bod rhai yn dewis ymweld 芒鈥檙 Brifysgol. Mae gofyn i鈥檙 cyfranogwyr ymgymryd 芒 thasgau meddwl syml. Mae鈥檙 rhain yn sylfaen i鈥檙 canlyniadau ymchwil, ac yn aml mae鈥檙 rhai sy鈥檔 cymryd rhan yn mwynhau eu gwneud!
Mae Pam, sydd yn wreiddiol o Gaergybi, bellach yn byw ger Biwmares, ac i wneud y gwaith hwn mae angen y ddoethuriaeth a enillodd ym mis Ionawr 2010.
Pam yn ei seremoni graddio'n ddiweddarMeddai Pam; 鈥淒wi鈥檔 credu mod i wedi bod yn lwcus i ddod o hyd i bwnc a gwaith dwi鈥檔 wir yn ymddiddori ynddynt. Dw i鈥檔 mwynhau teithio o amgylch y rhanbarth ac ymweld 芒 phobol, clywed am eu bywydau hyd yn hyn, mae鈥檔 hynod o ddifyr. Dw i hefyd yn teimlo bod yr ymchwil dan ni鈥檔 ei gyflawni鈥檔 werth chweil gan ei fod yn ein helpu i ddeall clefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson ychydig yn well.鈥
Wedi gadael yn ysgol yn 16 bu Pam, sydd yn awr yn 41, yn gweithio fel Nyrs Gynorthwyol, ond ar y pryd roedd hyfforddiant nyrsio鈥檔 newid a graddau鈥檔 cael eu cyflwyno. Doedd gan Pam ddim y cymwysterau na鈥檙 awydd i fynd i Brifysgol ar y pryd. Yn y cyfamser, trodd ei llaw at weldio, gweithio fel gwyliwr y glannau, bu鈥檔 rhan-berchennog ar gwch pysgota a nifer o swyddi eraill.
Daeth Pam i Brifysgol 黑料不打烊 fel myfyrwraig h欧n wedi dilyn cwrs mynediad. Wedi iddi raddio mewn seicoleg, bu鈥檔 gweithio fel cynorthwyydd ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg am nifer o flynyddoedd, ond nid oedd wedi meddwl o ddifrif am wneud gradd bellach.
鈥淒aeth y cyfle i astudio gradd MSc a Doethuriaeth ar y cyd ac fe鈥檌 gwelais fel cyfle i ddysgu mwy am y pwnc sy鈥檔 fy niddori a hefyd fel pedair blynedd arall o waith,鈥 meddai.
Gall cymhwyster 么l-radd wella eich CV, gall agor drysau i gyfleoedd pellach yn eich gyrfa neu mewn gyrfa newydd.
Mae Ffair Cyrsiau 脭l-radd nesaf Prifysgol 黑料不打烊 yn digwydd ddydd Gwener 18 Chwefror rhwng 12.00 - 2.00. Mae croeso i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn astudio ar lefel 么l-radd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ddod i鈥檙 Ffair, a dysgu mwy am y nifer helaeth o wahanol raglenni 么l-radd sydd ar gael. Gellwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy fynd i wefan y Brifysgol:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011