Cymru ar flaen y gad mewn Ymchwilio i Gymdeithas Sifil - Sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael 拢7 miliwn ar gyfer ymchwil gwyddorau cymdeithasol
Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael dros 拢7 miliwn yn dilyn cais llwyddiannus i鈥檙 Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Fel un o bedair canolfan ymchwil yn y DU, bydd yn rhan o fuddsoddiad cyffredinol gan yr ESRC o 拢29 miliwn mewn cyfres o ganolfannau a buddsoddiadau newydd a fydd yn canolbwyntio ar ystod o bynciau sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 blaenoriaethau ESRC, sef: perfformiad economaidd a thwf cynaliadwy, dylanwadu ar ymddygiad a llywio ymyriadau, a chymdeithas fywiog a theg; sy鈥檔 cynnwys ffocws ar gymdeithas sifil.
Bydd y ganolfan newydd flaenllaw hon, WISERD/Cymdeithas Sifil, yn cynnal rhaglen ymchwil pum mlynedd arloesol a phellgyrhaeddol o ymchwil sy鈥檔 berthnasol i bolisi sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 Chymdeithas Sifil yng Nghymru, y DU ac yn Rhyngwladol.
Dywedodd Cyfarwyddwr WISERD yr Athro Ian Rees Jones: 鈥淔el rhan o WISERD, mae partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, 黑料不打烊, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe, sef y ganolfan newydd hon (WISERD/Cymdeithas Sifil), yn cael ei hadeiladu o amgylch partneriaethau hirsefydledig rhwng academyddion, llunwyr polisi a sefydliadau cymdeithas sifil.鈥
鈥淏ydd WISERD/Cymdeithas Sifil yn ceisio llywio ein dealltwriaeth o natur newidiol cymdeithas sifil yng nghyd-destun llywodraeth ddatganoledig a phrosesau newid cymdeithasol ac economaidd dwys. Hefyd, oherwydd ei maint a鈥檌 llywodraeth ddatganoledig, mae Cymru鈥檔 cynnig cyd-destun unigryw ar gyfer astudio鈥檙 materion hyn. Trwy edrych ar Gymru fel 鈥榣abordy ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol鈥, bydd y ganolfan yn edrych ar rwydweithiau presennol o ymchwilwyr sydd ag ystod eang o arbenigedd a sgiliau.鈥
鈥淏ydd y ganolfan newydd hon yn dod 芒鈥檔 sefydliadau partner ac ymchwilwyr o Brifysgolion Caeredin, Sheffield ac Ulster at ei gilydd. Mae hyn yn wir yn gyfle unigryw a chyffrous i ymgymryd ag ymchwil gydweithredol ac amlddisgyblaethol sy鈥檔 canolbwyntio ar nodweddion cyfoes cymdeithas sifil,鈥 meddai.
Mae WISERD, a sefydlwyd yn 2008, yn darparu ffocws 鈥楥ymru Gyfan鈥 ar gyfer ymchwil ac mae wedi cael effaith fawr ar nifer ac ansawdd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru.
Dyma a ddywedodd y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts AS am gyhoeddiad ESRC: 鈥淢ae buddsoddi yn y blaenoriaethau ymchwil hyn yn allweddol i ysgogi arloesedd a thwf, gan helpu i ddylanwadu a ffurfio polisi a sicrhau cymdeithas well i bob un ohonom ni.鈥
Bydd y ganolfan yn cael ei lansio yn Hydref 2014. Bydd rhagor o fanylion am y meysydd ymchwil yr ymdrinnir 芒 nhw gan y ganolfan newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd Flynyddol WISERD 2014 ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 3 a 4 Gorffennaf 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014