Cymru - prynu ei ffordd i economi gref
Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 Datganiad Polisi ar Gaffael yng Nghymru wrth i鈥檙 Wythnos Gaffael Flynyddol agos谩u, a hwnnw鈥檔 ddigwyddiad rhyngwladol o bwys, yn sicr o achosi cynnwrf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mewn Datganiad Ysgrifenedig, mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid, Jane Hutt A.C., yn pennu cyfres o egwyddorion a ddylai fod yn sail i gaffael gan y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, ac yn nodi disgwyliad y bydd yn cydymffurfio 芒 pholis茂au Llywodraeth Cymru ar Gaffael.
Mae datganiad y Gweinidog yn dilyn y croeso a roddodd i Adroddiad McClelland (鈥淢aximising the impact of the Welsh procurement Policy鈥), y mae ei gynnwys yn sicr o fod yn destun trafod ymysg rheoleiddwyr ac ymarferwyr ym maes caffael sydd ar fin dod ynghyd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar gyfer yr Wythnos Gaffael.
Mae gan John McClelland CBE ddylanwad 鈥 mae ei adroddiad blaenorol ar gaffael yn yr Alban wedi ysgogi newidiadau deddfwriaethol radicalaidd yn y modd y mae Llywodraeth yr Alban yn ymdrin 芒 chaffael cyhoeddus. Yn awr, yn ei adroddiad dyddiedig 2012 ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae鈥檔 canmol polis茂au Cymru, gan ddweud eu bod yn flaengar iawn, ac yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd gam ymhellach, a gosod dyletswydd gyfreithiol ar yr holl gyrff cyhoeddus i weithredu polis茂au Llywodraeth Cymru ar gaffael.
Er nad yw鈥檙 Gweinidog Hutt yn mynd mor bell 芒 hyn, mae bron yn sicr yr aiff hi ryw fymryn ymhellach os oes angen, gan ddweud: 鈥淣id oes rhesymau nac esgusion i鈥檙 holl gwmn茂au beidio 芒 mabwysiadu [Datganiad Polisi Llywodraeth Cymru], a dylent wneud hynny鈥檔 ddi-oed.鈥 Parhaodd y Datganiad: 鈥淢ae gan y sector cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gyfrifoldeb torfol dros sicrhau ein bod yn defnyddio arian cyhoeddus yn ddoeth, er budd pobl Cymru, a dyletswydd i sicrhau bod y medrau a鈥檙 adnoddau priodol ar gael.鈥
Mae hyn o arwyddoc芒d penodol o gofio bod gwerth y contractau cyhoeddus a enillwyd gan gwmn茂au o Gymru wedi cynyddu o 37% i 51% ers pum mlynedd (lle mae gwariant ar gaffael gan y sector cyhoeddus yn rhyw 拢4.3 biliwn y flwyddyn, sef traean o wariant cyffredinol Cymru ar y sector cyhoeddus).
Mae rhai enghreifftiau o鈥檙 dull radicalaidd a ddefnyddir yng Nghymru yn cynnwys gofyn gan Lywodraeth Cymru am hysbysebu holl gontractau鈥檙 sector cyhoeddus unwaith eu bod yn cyrraedd y trothwy cymharol isel o 拢25,000. Mae hyn yn unol ag argymhelliad allweddol gan y Barriers to Procurement Opportunity Report (2009) a gyd-awdurwyd gan yr Athro Dermot Cahill, Cadeirydd y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael ym Mangor sydd wedi ennill bri rhyngwladol. Yn 么l Cahill, 鈥淭rwy hysbysebu, bydd y cam unigol hwn yn amlygu鈥檙 amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer tendro cyhoeddus sydd ar gael i gwmn茂au bach a chanolig 鈥 enghraifft wirioneddol o rymuso trwy roi gwybodaeth. Yn ei dro, bydd tryloywder yn hybu鈥檙 newid sydd ei angen er mwyn diwygio鈥檙 prosesau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chaffael sy鈥檔 rhy gymhleth ac yn aml wedi鈥檜 cynllunio鈥檔 wael, ac nad ydynt yn ateb anghenion y naill barti na鈥檙 llall yn y drefn dendro.鈥
Erbyn hyn, mae鈥檙 15 Argymhelliad Allweddol arall a nodwyd yn Adroddiad Barriers wedi鈥檜 mabwysiadu鈥檔 ffurfiol fel rhan o鈥檙 Rhaglen ar gyfer Llywodraethu yng Nghymru, ac mae Gwerth Cymru, is-adran gaffael Llywodraeth Cymru, wrthi鈥檔 eu rhoi ar waith.
Un o ganfyddiadau syfrdanol adroddiad McClelland oedd bod amrywiaeth enfawr o ran nifer y staff caffael a maint y gwariant ar draws gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, a鈥檌 ganfyddiad, o ganlyniad, mai po isaf nifer y staff caffael i bob 拢10m o wariant ar nwyddau a gwasanaethau, mwyaf tebygol yr oedd contractau o gael eu hennill gan gwmn茂au o鈥檙 tu allan i Gymru. Mewn ymateb, mae鈥檙 Gweinidog Hutt wedi cyhoeddi bod rhaglen o 鈥榳iriadau ffitrwydd鈥 i鈥檞 chynnal, yn benodol mewn Llywodraeth Leol, i sicrhau bod yr holl sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn rhoi sylw priodol i unrhyw ddiffygion a fo o ran medrau neu alluoedd cysylltiedig 芒 chaffael.
Mae鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd yng Nghymru yn cael sylw ar raddfa ehangach. Bydd presenoldeb Pennaeth yr Undeb Caffael Cyhoeddus ac Eiddo Deallusol o fewn y Comisiwn Ewropeaidd, Anders Jessen, sydd 芒 phrofiad helaeth o ymdrin, yn Washington ac ym Mrwsel, 芒 chytundebau rhyngwladol cymhleth yngl欧n 芒 masnachu byd-eang. Bydd 30 o arweinyddion ac ymarferwyr eraill ym myd caffael byd-eang hefyd yn bresennol, yn cynnwys Ombwdsmon Canada dros Gaffael, Frank Brunetta, Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth Gwrth-fonopoli Ffederasiwn Rwsia, Andrei Yunak, Sammy Rashed o Novartis, a鈥檙 Athro George Schooner o Brifysgol George Washington.
Bydd Wythnos Gaffael 2013 yn archwilio them芒u megis y sialensiau sy鈥檔 wynebu gwledydd BRIC wrth iddynt foderneiddio eu dulliau o gaffael ac ymgysylltu 芒 chyfundrefn Sefydliad Masnach y Byd (ETO) ar gaffael; Arloesi a Thirwedd Newidiol Caffael; Cyfraith Caffael Cyhoeddus a Sut i Ysgrifennu Tendrau Da.
Meddai Ian Price, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cynorthwyol, CBI Cymru a De-Orllewin Lloegr: 鈥淢ae caffael gan y sector cyhoeddus yn un o鈥檙 prif sbardunau y gellir ei ddefnyddio i symbylu鈥檙 economi yng Nghymru. Gall yr Wythnos Gaffael godi ymwybyddiaeth yngl欧n 芒鈥檙 modd y gellir gwella鈥檙 sefyllfa bresennol. Mae ein haelodau鈥檔 dal i fynegi llawer o bryderon yngl欧n 芒鈥檙 drefn yng Nghymru. Mae鈥檙 CBI yn gwerthfawrogi barn yr Athro Dermot Cahill a鈥檌 d卯m ICPS. Lluniodd yr Athro Cahill un o鈥檙 darnau gorau o waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn The Barriers to Procurement Opportunities Report.鈥
Mae Ian Forrester Mowatt, Cyfarwyddwr Dros Dro Partneriaeth Caffael Gogledd Cymru, consortiwm o fewn llywodraeth leol, yn cefnogi rhaglen Ynys Ynni o ran paratoi a helpu busnesau lleol i fod mor gystadleuol 芒 phosibl wrth gynnig am gontractau. Mae Ian wrthi鈥檔 llunio adroddiad ar 鈥楻egional Supply Chain Development鈥 lle mae鈥檔 cyflwyno argymhellion ar y ffordd orau o ymgysylltu 芒鈥檙 gadwyn gyflenwi, ac yn benodol 芒 chwmn茂au bach a chanolig. Meddai: 鈥淢ae Wythnos Gaffael Prifysgol 黑料不打烊 yn rhoi cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn dangos arfer blaenllaw yn y maes. Mae hefyd yn hanfodol cysylltu theori ag ymarfer. Mae gan y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael ym Mangor hanes o lwyddiant o ran darparu ymchwil effeithiol sy鈥檔 dod yn sail wedyn ar gyfer gweithgareddau ac ymddygiadau effeithiol.鈥
Bydd yr Wythnos Gaffael yn gorffen gyda鈥檙 seremoni gyntaf i gyflwyno Gwobrau Cenedlaethol Cymru ym maes Caffael, a gyflwynir i unigolion, cwmn茂au a sefydliadau am amlygu arweinyddiaeth, rhagoriaeth ac arloesi o ran caffael a thendro.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2013