Cyn fyfyriwr yn cwblhau taith epig 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica ac yn ol
Mae myfyriwr a raddiodd o Brifysgol 黑料不打烊 newydd gwblhau taith epig 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica ac yn 么l mewn ymgais i godi 拢10,000 ar gyfer dwy elusen, Link Ethiopia ac Alzheimer鈥檚 Research Trust.
Fe wnaeth Carl James o Swydd Buckingham, a raddiodd o Fangor gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon yn 2009, benderfynu cychwyn ar y daith gyda ffrind ysgol, a aeth ag ef drwy 40 o wledydd mewn 11 mis, gan ei fod am gael her newydd ar 么l graddio.
Meddai Carl, 24: 鈥淵n y lle cyntaf, roedden ni am yrru ein car o amgylch cyfandir cyfan Affrica ac ymweld 芒 phrojectau gwerth chweil fel Link Ethiopia (linkethiopia.org) a Right to Dream yn Ghana (righttodream.com) ar hyd y ffordd. Yn ogystal, roedden ni eisiau codi 拢10,000 ar gyfer Link Ethiopia ac Alzheimer's Research Trust UK, ond doedden ni erioed yn disgwyl i hyn fod wedi鈥檌 gyflawni erbyn yr amser y daethon ni yn 么l adref. Roedd honno鈥檔 wastad yn mynd i fod yn her tymor hwy.
鈥淒oedden ni ddim eisiau dim ond gyrru am fisoedd yn edrych ar bobl a lleoedd drwy ffenestri ein car. Roedden ni eisiau stopio ac aros mewn llefydd, cymryd rhan, cyfarfod 芒 phobl, gwneud rhywbeth adeiladol a chael pwrpas i鈥檙 trip.
鈥淩oedd gweithio gyda Link Ethiopia yn Gondar yn agoriad llygaid gwych ac yn brofiad gwerth chweil.
鈥淢ae鈥檙 arian a godwyd ar hyn o bryd ychydig dros 拢4000, ond gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian ar y gweill, gobeithiwn y byddwn yn gallu cyrraedd ein targed o 拢10,000 yn gyflym iawn.
Ac yntau yn 么l ym Mhrydain yn awr, meddai Carl: 鈥淩oedd yna nifer o uchafbwyntiau yn ystod ein taith, ac roeddent yn amrywiol iawn.
鈥淩oedd gyrru yn Congo yn brofiad ynddo鈥檌 hun. Ar un pwynt, fe wnaethom gymryd 6 niwrnod i deithio dim ond 100km gan fod y ffordd mor wael a mwdlyd, roedd y car yn mynd yn sownd bob ychydig gannoedd o fetrau.
鈥淵n naturiol, roedd cyrraedd Die Hel hefyd yn uchafbwynt. Daw鈥檙 enw yn syml o鈥檙 drafferth wrth ei gyrraedd, oherwydd mae yna fynyddoedd o鈥檌 gwmpas yn ardal Little Karoo De Affrica, a chan mlynedd yn ddiweddarach, dydi o ddim haws ei gyrraedd. Cymerodd ddwy awr o yrru ar ymyl dibyn i鈥檞 gyrraedd ar 么l gadael y ffordd tarmac.
Ar daith mor hir, fe ddaeth yr hogia, yn anochel, ar draws ambell i broblem ar hyd y ffordd. Meddai Carl: 鈥淥 safbwynt mecanyddol, roedd rhaid ail-weldio鈥檙 siasi yn Kenya ac ailadeiladu鈥檙 injan yn Ne Affrica.
鈥淵n Angola, fe wnaeth dryswch gyda鈥檙 dyddiadau ar ein fisas olygu ein bod ni yn y wlad yn anghyfreithlon, ac roedd raid i ni gael cymorth y Llysgenhadaeth Brydeinig i ddod o hyd i鈥檙 ffordd orau allan, ar unwaith! Roedd raid i ni hefyd lwgrwobrwyo ein ffordd i mewn i wlad gan fod y rheoliadau ar gyfer mynediad wedi newid, gan olygu y byddai鈥檔 rhaid i ni fod wedi hedfan adref i gael fisas i barhau ar ein taith.
鈥淥nd fe wnaethon ni ddysgu llawer hefyd fel sut i ymdrin 芒 phobl. Cawsom groeso mawr gan ddieithriaid llwyr ar draws y cyfandir enfawr, mewn ffordd nad ydyn ni erioed wedi dod ar ei draws ym Mhrydain.
鈥淩oedd yn rhaid i ni鈥檔 dau hefyd ddelio efo鈥檔 gilydd, yn gyrru, eistedd, bwyta a chysgu o fewn tua thair troedfedd i鈥檔 gilydd am flwyddyn.
鈥淎r lefel mwy personol, ni fyddai鈥檙 project hwn wedi cychwyn heb lawer iawn o waith caled ac ymroddiad. Ar 么l i ni ei wneud, rydan ni'n teimlo nad oes yna lawer o bethau na allwn ni ei wneud.鈥
Pan ofynnwyd iddo grynhoi鈥檙 antur mewn pum gair, dywedodd: 鈥淢ecanics, breibs, gwaith papur, elusennau, gwaith caled!鈥
Ychwanegodd Carl, sy鈥檔 paratoi i wneud gradd meistr yn awr: 鈥淒oes yna ddim cynlluniau ar y gweill am antur arall oherwydd rydan ni wedi dychwelyd adra heb ddim arian. Ond ar 么l i鈥檔 cyrsiau meistr fod allan o鈥檙 ffordd, efallai y byddwn yn gallu ystyried rhywbeth 鈥 mi wnaethon ni grybwyll y syniad o Alaska i鈥檙 Ariannin ar fotobeics yn y dafarn y noson o鈥檙 blaen!鈥
Sefydlwyd gwefan i alluogi i鈥檙 rhai sydd 芒 diddordeb ddarllen y cyfan am eu hantur, ac i roi arian i鈥檙 elusennau. Os ydych chi am wybod mwy, ewch i鈥檞 gwefan
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2011