Cyn fyfyrwraig 黑料不打烊 yn cipio'r Fedal Ddrama
Ffion WilliamsFfion Williams, cyn-fyfyrwraig Prifysgol 黑料不打烊, sydd wedi ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a鈥檙 Cylch 2015 mewn cystadleuaeth o safon uchel a blesiodd y beirniaid yn fawr.
Mae Ffion yn astudio gradd meistr mewn Astudiaethau Celtaidd, gan ganolbwyntio ar chwedloniaeth Gymraeg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Mae鈥檔 gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Llanychllwydog ac Ysgol y Preseli, ac fe raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊 y llynedd.
Mae Ffion eisoes wedi profi llwyddiant ym maes y ddrama a llenyddiaeth. Fe enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Rhyngolegol tra鈥檔 astudio ym Mangor, ac mae wedi ennill Cadair Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Sir Benfro deirgwaith.
Tu hwnt i ysgrifennu dram芒u a byw ymysg ll锚n yr oesoedd a fu, mae Ffion yn gerddor medrus. Mae wedi bod yn aelod o Fand Pres Wdig am flynyddoedd maith ac wedi chwarae i Fandiau Pres Ieuenctid Cymru ac Ewrop. Mae wedi cystadlu ar lwyfan yr Urdd sawl tro, ac mae hi hefyd yn actores frwd.
Bwriad Ffion yw astudio doethuriaeth yn y Gymraeg, ond cyn hynny, mae鈥檔 awyddus i fyw yn y 鈥榖yd go iawn鈥 am ychydig, gan weithio, os yn bosibl, ym maes y theatr a鈥檙 celfyddydau.
Mae鈥檙 Fedal Ddrama yn cael ei chyflwyno am gyfansoddi drama lwyfan un act sydd yn cymryd rhwng 40 鈥 60 munud i鈥檞 pherfformio. Fe gystadlodd Ffion o dan y ffug enw Liszt gyda darn o waith o鈥檙 enw Liberstr盲ume, sy鈥檔 archwilio perthynas garwriaethol rhwng athro piano a鈥檌 ddisgybl.
Yn 么l y beirniaid, Elen Bowman a Dafydd James, mae Ffion yn 鈥渄dramodydd aeddfed, theatraidd sy鈥檔 deall y grefft鈥 ac yn 鈥渓lwyr haeddu鈥檙 Fedal mewn cystadleuaeth dda.鈥
Meddai Dafydd James: 鈥淒yma ddrama mwyaf cyflawn y gystadleuaeth. Mae Ffion yn deall beth yw hi i blethu naratif, cymeriadu, deialog, cerddoriaeth a ffurf i greu cyfanwaith sy'n argyhoeddi'n llwyr y medrid ei pherfformio ar lwyfan heddiw. Mae'n gwybod beth yw hi i ddatgelu gwybodaeth ddramatig mewn modd cynnil ac roeddem wedi ein cyfareddu'n llwyr gan amwysedd y berthynas ganolog. Braf hefyd oedd clywed tafodiaith y Gorllewin ac mae'r defnydd o'r gerddoriaeth a'r piano yn gelfydd.
鈥淢ae yna ryw synnwyr bod y dramodydd yn chwarae gyda ffurf comedi, melodrama a thrasiedi; medrir gwthio hwn ymhellach. Mae hon yn ddrama grefftus sy'n adeiladu at ddiweddglo hyfryd, melancolaidd a didwyll.鈥
Eleni, fe ddaeth 13 o gynigion i鈥檙 fei ac roedd y beirniaid yn hapus dros ben gyda safon y gystadleuaeth.
Ychwanega Elen Bowman: 鈥淢ae ffurf y ddrama yn beth cymhleth i'w meistroli ac nid yw dramodwyr fel arfer yn aeddfedu mor gyflym 芒 llenorion a beirdd. Rhaid iddynt feddwl, ymysg pethau eraill, am gymeriadau aml-haenog, gwrthdaro, is-destun a chynilder, tyndra dramatig, strwythur stor茂ol, datblygiad ac uchafbwynt, ac ar ben hyn rhaid bod y script yn diddanu cynulleidfa fyw!
鈥淵n sg卯l y gystadleuaeth hon, rydym ein dau wedi ein cyffroi wrth feddwl am ddyfodol y ddrama Gymraeg.鈥
O blith y 13 o gystadleuwyr, fe ddaeth pump i鈥檙 brig. Fe ddaeth Miriam Elin Jones, Aelod Unigol o Gylch Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion a Rhian Davies, Aelod Unigol o Gylch Llandysul, Rhanbarth Ceredigion yn gydradd ail, gyda Lara Catrin, Aelod Unigol Rhanbarth Tu Allan i Gymru a Gareth Evans-Jones, Aelwyd Unigol Cylch Eilian Rhanbarth M么n yn gydradd drydydd.
Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Gareth Evans-Jones, myfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, ar ddod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth.
Mae gan fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg record arbennig o dda yn y gystadleuaeth hon. Enillwyd hi yn 2012 gan Llyr Titus Hughes, yn 2011 gan Elin Gwyn ac yn 2010 a 2007 gan Manon Wyn Williams sydd bellach yn Ddarlithydd Sgriptio a Drama gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015