Cyngerdd sy鈥檔 dangos cysylltiad Prifysgol 黑料不打烊 gyda鈥檙 Dwyrain a gwaith arbennig perfformwyr a chyfansoddwyr
Bydd cyngerdd yn Stiwdio Pontio nos Iau yma, 11 Ebrill 7.30pm yn dod 芒 dau ddiwylliant gwahanol at ei gilydd gan ddangos cyfoeth y dalent sydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊.
Wedi鈥檌 drefnu gan Richard Craig, Pennaeth Perfformio yn yr Ysgol Gerdd, bydd y cyngerdd yn cynnwys myfyrwyr a staff dysgu o鈥檙 Brifysgol gan archwilio鈥檙 thema natur.
鈥Mae鈥檙 thema 鈥榥atur鈥 neu鈥檙 elfennau, yn gysyniad sy鈥檔 dod 芒鈥檙 Dwyrain a鈥檙 Gorllewin ynghyd 鈥 mae鈥檙 ddau ddiwylliant yn aml yn adlewyrchu natur epig eu hamgylchiadau, ac yma yng Nghymru rydym yn ffodus i gael natur ar ein stepan ddrws. Mae鈥檙 cyfansoddiadau a berfformir yn sylwebaeth ar ystyr neu symbolaeth natur iddynt hwy, a byddwn yn perfformio cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru yn ogystal 芒 pherfformiad arbennig o gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd gan un o鈥檔 myfyrwyr, Yiwen Guo, ar y Guzheng.鈥
Bydd y perfformwyr yn cynnwys Mared Emlyn (Tiwtor Telyn a chyfansoddwr), Sioned Roberts (Tiwtor clarin茅t a chyfansoddwr), Yr Athro Andy Lewis, Athro mewn Cyfansoddi, a myfyriwr doethuriaeth, Katherine Betteridge.
Ychwanegodd Richard Craig, 鈥Mae鈥檙 rheini sy鈥檔 cymryd rhan yn y cyngerdd yn berfformwyr a chyfansoddwyr nodedig, sy鈥檔 cymryd rhan mewn sawl cyngerdd yng Nghymru, Prydain a thu hwnt. Mae鈥檔 cynrychioli鈥檙 cyfnewid diwylliannol yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊, ei gysylltiad gyda鈥檙 Dwyrain a hefyd gwaith arbennig y perfformwyr a鈥檙 cyfansoddwyr sy鈥檔 dysgu yma ac yn gweithio yn y proffesiwn.鈥
Pontio鈥檙 Dwyrain a鈥檙 Gorllewin
Nos Iau 11 Ebrill
7.30pm
Stiwdio Pontio
拢12/拢10 dros 60/拢5 myfyrwyr a dan 18
Archebwch arlein www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28 neu galwch draw yn y ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019