Cyngerdd yn cyfrannu tuag at Gronfa鈥檙 Urdd
O ganlyniad i Gyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd gan Brifysgol 黑料不打烊 yn Neuadd Prichard-Jones, cyflwynodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, siec am 拢2242 i Bryn Tomos, Cadeirydd Pwyllgor Ap锚l 黑料不打烊 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nglynllifon.
Bryn Tomos yn derbyn siec gan Yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊. Hefyd yn y llun, Sandra Hughes-Jones o broject Celfyddydau ac Arloesi Pontio y Brifysgol, sy'n cynrychioli'r pwyllgor trefnu.Rhoddwyd llwyfan i gyfoeth o ddoniau鈥檙 rhanbarth yn ystod y noson arbennig yma.
Cafwyd amrywiaeth cerddorol eang at ddant pawb gyda pherfformiadau gafaelgar gan Fand Jazz Ysgol Tryfan, C么r Meibion Dinas 黑料不打烊, C么r Meibion 鈥嬧媦 Penrhyn, C么r Neuadd Syr John Morris Jones, Casi Wyn, John Eifion, Band Pres Porthaethwy, Ysgol y Garnedd ac offerynnwr taro, Dewi Elis Jones.
Dywedodd Bryn Tomos, Cadeirydd Pwyllgor Ap锚l 黑料不打烊:
鈥淩ydym yn eithriadol o ddiolchgar i鈥檙 Brifysgol am drefnu鈥檙 noson ac yn werthfawrogol iawn o鈥檙 cyfraniad. Rydym yn ddyledus i鈥檙 Is-Ganghellor am adael i ni gael defnyddio Neuadd Prichard-Jones am ddim ar gyfer yr achlysur yma, ac ar gyfer sawl achlysur arall er mwyn i ni gynnal digwyddiadau i godi arian i鈥檙 Eisteddfod.鈥
Dywedodd yr Athro John G Hughes, a fu yn y cyngerdd: "Roeddwn yn falch iawn gydag ansawdd rhagorol ac ystod eang y doniau cerddorol sydd gennym yn lleol ac rwy'n falch bod y Brifysgol yn gallu cefnogi a gwneud cyfraniad tuag at y fath ddigwyddiad diwylliannol pwysig."
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2012