Cynhadledd Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru
Rhwng y 25ain a鈥檙 27ain o Orffennaf bydd 黑料不打烊, Dinas Dysg, yn croesawu casgliad o 么l-raddedigion ifanc, academyddion gyrfa gynnar ac ysgolheigion profiadol o鈥檙 DU, ac o cyn belled ag Ontario, Canada, wrth iddi gynnal 12fed cynhadledd ddwyflynyddol Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru 2018.
O Ddiwylliant Poblogaidd i Wleidyddiaeth, Tirlun i Lenyddiaeth, Rhyfel, Cyfryngau a Cherddoriaeth, bydd y gynhadledd hon, sy鈥檔 para am dridiau, yn cynnig detholiad cynhyrfus ac amrywiol o destunau, them芒u a disgyrsiau ar Ddiwylliant, Llenyddiaeth a Hanes, gan hefyd ymgodymu ag astudiaethau o ddiwylliant Cymry-America, ac archwilio pynciau llosg sy鈥檔 effeithio ar y Gymru Gyfoes. Bydd y gynhadledd yn cynnwys papurau gafaelgar gan siaradwyr cyweirnod blaenllaw megis Huw Pryce, Athro Hanes Cymru ym Mangor, Katie Gramich, Athro Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, a Huw Osborne, Athro Cysylltiol yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada.
鈥2012 oedd y tro diwethaf i Gynhadledd NAASWCH fod ym Mangor, ac rwy鈥檔 falch o鈥檌 chroesawu unwaith eto i鈥檙 Brifysgol, gan y cyniga gyfle gwych i ddysgu am ymchwil sy鈥檔 torri cwys newydd yn ein dealltwriaeth o orffennol Cymru yn ogystal 芒鈥檌 chymdeithas gyfoes.鈥
- Yr Athro Andrew Edwards, cyd-drefnydd y gynhadledd
Mae NAASWCH 2018 yn llawn addewid o fod yn symposiwm treiddgar fydd yn procio鈥檙 meddwl ar nifer o agweddau o鈥檙 cyflwr Cymreig.
Am fanylion pellach yngl欧n 芒鈥檙 Gynhadledd, pl卯s cysylltwch 芒鈥檙 cyd-drefnydd Dr Mari Wiliam:
Gwahoddir cyfranogwyr y Gynhadledd hefyd i gyhoeddi darn cryno ar flog Hanes Cymru newydd Prifysgol 黑料不打烊, gan arddangos y casgliadau arwyddocaol fydd wedi鈥檜 cyflwyno yn y gynhadledd i gynulleidfa ehangach. Gellir gweld y blog ar y ddolen ganlynol:
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018