Cynhadledd Gwyddorau Cymdeithasol fwyaf
Cynhelir cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd yr wythnos hon (30 Mehefin 鈥 2 Gorffennaf).
Mae cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), a gynhelir am y chweched tro eleni, yn dod ag ymarferwyr, llunwyr polis茂au a gwyddonwyr cymdeithasol ynghyd i drafod them芒u fel iechyd; gofal cymdeithasol; lles; addysg; diwylliant a gwerthoedd; yr amgylchedd; marchnadoedd llafur; datganoli; a chymdeithas sifil.
Bydd ymchwilwyr academaidd ac anacademaidd yn rhannu eu hymchwil yn y gynhadledd sydd bellach wedi ennill ei phlwyf fel digwyddiad pwysig yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol. Ni all unrhyw un sy'n ymwneud 芒 materion cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn y Gymru gyfoes fethu鈥檙 gynhadledd hon lle bydd dros 120 o bapurau, posteri a sesiynau panel yn cael eu cyflwyno eleni.
Mae'r pynciau o dan sylw eleni鈥檔 cynnwys: y bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod; dyfodol y Gymraeg yng Nghymru; gofal lliniarol i bobl 芒 dementia; profiadau pobl ifanc yn y farchnad lafur; a鈥檙 defnydd o e-sigar茅ts ymhlith pobl ifanc.
Bydd tri phrif siaradwr yn y gynhadledd eleni a gynhelir dros gyfnod o dri diwrnod: Ann Keane, cyn-Brif Arolygydd EM Estyn; Karl Wilding, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus yng Nghyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol (NCVO); a鈥檙 awdur a鈥檙 economegydd, Will Hutton.
Mynegodd Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones, Pennaeth yr l ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ei foddhad ar y siaradwyr yng nghynhadledd eleni: "Rydym wedi tyfu鈥檔 raddol dros y blynyddoedd, a鈥檙 gynhadledd eleni, ein chweched hyd yma, yw鈥檙 gyntaf i gael ei chynnal dros dri diwrnod. Mae鈥檔 wych gweld dros 120 o bapurau, posteri a sesiynau panel ar y rhaglen, ac edrychaf ymlaen at glywed gan ein prif siaradwyr a chymryd rhan mewn amrywiaeth gyffrous o drafodaethau.
鈥淢ae cynadleddau WISERD yn gyfle i gydweithwyr sy鈥檔 gweithio ym meysydd economaidd, polisi, cyhoeddus a鈥檙 trydydd sector i ddod ynghyd i drafod yr ymchwil ddiweddaraf. Maent hefyd yn gyfle i ni i ddysgu am yr ystod eang o ymchwil PhD cyffrous a gynhelir ledled Cymru."
Yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, fydd yn agor cynhadledd flynyddol WISERD, a dyma beth oedd ganddo i鈥檞 ddweud amdani: "Mae cynhadledd WISERD yn gyfle gwych i ymgysylltu 芒鈥檙 ymchwil ddiweddaraf a gynhelir ym maes gwyddorau cymdeithasol. Mae'r gynhadledd yn ffordd ardderchog o hybu rhwydweithio ac ysgogi trafodaeth ar draws nifer fawr o sectorau, ac mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod yn gysylltiedig 芒 WISERD - sy鈥檔 parhau i ysbrydoli ac ysgogi cydweithredu ac ymgysylltiad ym maes ymchwil.鈥
Cynhelir rhwng dydd Mawrth, 30 Mehefin a dydd Iau, 2 Gorffennaf yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2015