Cynhadledd Ryngwladol Sefydliad Confucius
Bu cynhadledd ryngwladol gyntaf Sefydliad Confucius Prifysgol 黑料不打烊 yn llwyddiant ysgubol. Daeth mwy na hanner cant o gynrychiolwyr o un ar bymtheg o Brifysgolion mewn tair gwlad i Neuadd Reichel, Prifysgol 黑料不打烊 i rannu gyda chydweithwyr o'r un anian eu profiadau ymchwil ac arferion gorau ym meysydd addysgu ieithoedd tramor, cyfieithu a phrosesau rhyngddiwylliannol.
"Nod y gynhadledd Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol oedd annog trafodaeth a chyfnewid syniadau rhwng cynrychiolwyr ar bob lefel, boed nhw yn arbenigwyr mewn meysydd perthnasol neu yn bobl sydd 芒 diddordeb cyffredinol yn y pwnc pwysig ac amserol yma," meddai Dr Lina Davitt, Rheolwr a threfnydd y gynhadledd. "Fe wnaethon ni lwyddo mewn dau ddiwrnod i gyfnewid syniadau arloesol a rhannu gwybodaeth. Gobeithio y bydd y cynadleddwyr ar 么l hyn yn dechrau gweithredu'r syniadau newydd yma yn rhan o'u harferion addysgu o ddydd i ddydd ac y byddan nhw'n datblygu gwaith newydd ar y cyd dros y flwyddyn nesaf."
Yng Nghynhadledd Sefydliad Confucius 2018 tynnwyd sylw at drafodaethau diddorol yngl欧n 芒 sut mae defnyddio technoleg addysgu rhithrealiti newydd yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd addysg ac yn newid r么l yr athro / athrawes o fod yn cyflwyno cynnwys i fod yn hwyluso cynnwys.
Roedd yr holl gynrychiolwyr yn gyt没n fod y gynhadledd, a noddwyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol 黑料不打烊, wedi rhagori ar eu disgwyliadau ac wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i gyfnewid diwylliannol a chyfathrebu cadarnhaol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2018