Cynhadledd Seicoleg gyntaf i鈥檞 gynnal yn y Gymraeg
Cynhelir y gynhadledd Seicoleg gyntaf i鈥檞 chynnal yn gyfan gwbl yn Gymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ddydd Llun, 4 Tachwedd 2013.
fydd yn cyflwyno鈥檙 digwyddiad. Mae鈥檙 ysgol hon yn fyd- enwog ac wedi bod yn datblygu ei darpariaeth seicoleg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. Mae鈥檙 gynhadledd yn rhad ac am ddim ond rhaid cofrestru ymlaen llaw. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i鈥檙 cynadleddwyr di-Gymraeg.
Meddai Dr Elin Walker Jones, Seicolegydd Clinigol a Darlithydd, ac un o drefnwyr y digwyddiad,
鈥淢ae鈥檙 Ysgol Seicoleg yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu cyfeiriadau newydd ym maes Seicoleg. Dyma'r tro cyntaf erioed i gynhadledd seicoleg gael ei chynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal 芒'r Ysgol Seicoleg a Phrifysgol 黑料不打烊 am eu gweledigaeth a'u nawdd i'n galluogi i wireddu'r freuddwyd hon.鈥
Ychwanegodd: 鈥淢ae鈥檔 bwysig bod myfyrwyr ar bob lefel, ac ymarferwyr, yn cael cyfle nid yn unig i drafod seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd i drafod datblygiad y pwnc yn Gymraeg. Er enghraifft, datblygu ymyriadau sydd ar gael i bobl yn Gymraeg, i bobl sy鈥檔 fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn yr iaith.鈥
Dr Carl Hughes fydd y prif siaradwr yn y gynhadledd. Mae Dr Hughes yn gyfarwyddwr cyrsiau 么l-radd Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn Ysgol Seicoleg Prifysgol 黑料不打烊 ac yn ddirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru sydd newydd ei sefydlu. Dr Hughes yw鈥檙 ifancaf i ennill Gwobr Gwasanaeth Nodedig ym maes Dadansoddi Ymddygiad gan y gymdeithas, The Society for the Advancement of Behavior Analysis (SABA).
Eglurodd Dr Hughes, 鈥淢ae ymarferwyr sydd wedi graddio o鈥檔 cwrs 么l-radd ym maes Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn aml yn gweithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a sefydliadau addysgol arbennig. Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu Cynllun Bwrsariaeth Cymraeg i gyfrannu at ddatblygu dadansoddwyr ymddygiad medrus fydd yn gallu cael gwaith yn lleol yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae鈥檙 gallu i ymarfer yn glinigol yn y ddwy iaith yn hollbwysig yng ngogledd orllewin Cymru lle mae鈥檙 mwyafrif o鈥檙 boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg a鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 ysgolion yng Ngwynedd yn darparu addysg ddwyieithog.鈥
Rhoddir cyflwyniadau鈥檙 gynhadledd gan ymchwilwyr lleol, staff a myfyrwyr yr Ysgol Seicoleg. Bydd amrywiaeth o bynciau dan sylw yn cynnwys Food Dudes, y Blynyddoedd Rhyfeddol, prosesu emosiynau ac iaith, str么c a dwyieithrwydd, iechyd oedolion gydag anableddau dysgu a nifer o bynciau eraill. Cyflwynir y projectau ymchwil arloesol hyn drwy gyfrwng y Gymraeg gan gyfrannu at nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o gynyddu cyfleoedd academaidd cyfrwng Cymraeg. Mae i hyn oblygiadau i staff a myfyrwyr y brifysgol a hefyd i ymarferwyr sy鈥檔 anelu at ragoriaeth yn eu hymarfer clinigol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013