Cynhadledd ym Mangor yn trafod heriau鈥檙 cyfryngau
Fe fydd cadeirydd awdurdod S4C, Huw Jones, yn trafod yr heriau sy鈥檔 wynebu鈥檙 sianel mewn araith yng nghynhadledd Cyfrwng ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar 24-25 Gorffenaf.
Bydd y gynhadledd yn gyfle i ddod ag academyddion o brifysgolion ledled Cymru a nifer o unigolion o鈥檙 diwydiannau creadigol at ei gilydd i drafod dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.
Dywedodd Huw Jones y bydd yn 鈥測n trafod newidiadau yn nemograffeg siaradwyr Cymraeg, a鈥檙 prif heriau sy鈥檔 wynebu teledu yn yr iaith Gymraeg yn sgil rheiny鈥.
鈥淪ut mae adnabod blaenoriaethau gwylwyr yn yr oes aml-lwyfan, a sut mae ymateb i awgrymiadau am strwythurau newydd ar gyfer darlledu yng Nghymru?鈥
Fe fydd dau enw byd-enwog o fyd ffilmiau dogfen hefyd yn cymryd rhan yn y gynhadledd. Bydd Gideon Koppel, cyfarwyddwr Sleep Furiously, a chynhyrchydd The Act of Killing, Joram ten Brink, yn trafod eu gwaith.
Mae gwaith yr Athro Gideon Koppel fel artist a gwneuthurwr ffilm wedi cael ei ddarlledu yn rhyngwladol ac wedi ei arddangos mewn orielau o Tate Modern yn Llundain, i MoMA Efrog Newydd.
Arddangoswyd gwaith Joram ten Brink yn yr Amgueddfa Gelf Modern, yn Efrog Newydd, yn ogystal 芒 gwyliau ffilm Berlin a Rotterdam.
Fe fydd Yr Athro Mike Pearson, awdur Marking Time: Performance, Archaeology and the City, hefyd yn trafod ei waith ar berfformiad ac archeoleg.
Mae modd cofrestru ar-lein
Dilynwch Cyfrwng at Twitter:
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014