Cynhadledd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar gyfrol ymfflamychol Caradoc Evans
Cynhelir cynhadledd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ym mis Gorffennaf ar achlysur canmlwyddiant cyhoeddi cyfrol a roes i鈥檞 awdur teitl y 鈥渂est-hated man in Wales鈥. Casgliad o straeon byrion yw My People gan Caradoc Evans; storiau am gymuned ddychmygol yng ngorllewin Cymru wedi eu selio ar bentref genedigol yr awdur yn Rhydlewis, Sir Geredigion.
Yn y gyfrol finiog, ddychanol hon, portreir y gymuned wledig Gymraeg yn un drachwantus, ragrithiol a chreulon; mae ufudd-dod y bobl i gredoau anhbylyg y Capel yn pwysleisio鈥檙 gorthrwm emosiynol maent yn dioddef.
Dywed un o drefnwyr y gynhadledd, yr Athro Tony Brown o Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol 黑料不打烊, 鈥淔e argraffodd y cyhoeddwr yn Llundain ar siaced lwch y gyfrol 鈥楾hese stories of the Welsh peasantry, by one of themselves, are not meat for babes鈥. Yr honiad oedd bod y straeon hyn yn cynnig portread go-iawn o fywyd gorllewin Cymru, ac fe dderbyniodd wasg Llundain yr honiad fel gwirionedd, gan edmygu My People 鈥渓lwyddiant mewn celfyddyd鈥 a chymharu Caradoc Evans gyda Zola wrth ddatgelu ochr dywyll bywyd bob-dydd. Cynnwrf a chythrudd oedd yr ymageb yng Nghymru. Mewn dyfyniad enwog fe ddisgrifiodd y Western Mail y gyfrol fel 鈥渁 squalid and repellent picture 鈥 a farrago of filth鈥.
Dywed yr Athro Brown: 鈥淢ae鈥檔 sicr yn gasgliad grymus tu hwnt. Mewn un stori mae ffermwr yn cadw ei wraig dan glo yn llofft un o鈥檙 tai allan; caiff y wraig ryddhad yn ystod y nos yn unig, wedi ei ffrwyno gan dennyn y gwartheg. Mewn stori arall mae hen fenyw yn newynu hyd farwolaeth er mwyn cynilo arian er mwyn rhoi beibl ysblenydd i weinidog sy鈥檔 ymadael 芒鈥檙 capel. Does dim syndod y cafodd y llyfr y fath ymadwaith: digon gwael oedd i Evans am ymosod ar y werin, sef ceidwaid hanfod y genedl - ond gwaeth bydd iddo wneud mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn Llundain!
鈥淥nd, er bod y gyfrol ffyrnig o ddychanol tuag at gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gymraeg, ac yn deillio o ddrwgdeimlad personol dwfn iawn, nid portreaed realaidd a geir yma; fe ddibyna鈥檙 gyfrol ar or-ddweud ac ar y grot猫sg. Gyda鈥檙 carwtnwyr dychanol cyfoes fel Ralph Steadman a Steve Bell y mae鈥檙 gymhariaeth orau. Roedd arddull My People yn ddylanwadol iawn ar nifer o awduron Cymreig eraill, gan gynnwys Dylan Thomas, aeth ar bererindod i ymweld ag Evans yn Aberystwyth yn yr 1930au.鈥
Bydd y siaradwyr yn y gynhadledd yn trafod My People mewn sawl cyd-destun, gan gynnwys cymhariaeth rhwng Evans a James Joyce, a bydd rhaglen ddogfen diweddar S4C, 鈥楩frae My People, hefyd yn cael ei ddangos.
Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar ddydd Gwener, 3 Gorffennaf, i gychwyn am 10.30. Cost y diwrnod yw 拢20 (拢12 i 么l-raddedigion a鈥檙 di-d芒l), gan gynnwys lluniaeth. Ceir mwy o fanylion ar y wefan: . Trefnwyr y gynhadledd yw Dr Tomos Owen a鈥檙 Athro Tony Brown.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2015