Cynhyrchydd yn herio鈥檙 gwleidyddion a鈥檙 cyfryngau
Arglwydd PuttnamBydd y cynhyrchydd David Puttnam, sydd wedi ennill Gwobrwyon Oscar ac a gynhyrchodd ffilmiau fel Chariots of Fire, The Killing Fields a Memphis Belle, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ddydd Mercher 1 Mai. Mae鈥檔 addo sylwadau treiddgar ynddi ar Adroddiad Leveson a chyflwr y cyfryngau.
Bydd y ddarlith 鈥The Lessons of Leveson: Media Regulation in an Internet Age鈥 yn dechrau am 6.00pm ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau , Prifysgol 黑料不打烊. Dyma鈥檙 digwyddiad olaf yn rhaglen darlithoedd y Brifysgol yn 2012/13. Mae mynediad am ddim ond fe鈥檆h cynghorir i gyrraedd mewn da bryd.
Bydd yr Arglwydd Puttnam, a ddyrchafwyd i D欧鈥檙 Arglwydd yn 1997, yn trafod rhai o鈥檙 materion sydd wedi deillio o ymholiad Leveson ac yn ystyried yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu am y cyfryngau, ac am gymdeithas Prydain yn ei chyfanrwydd, o ganlyniad. Mae eisoes wedi datgan yn gyhoeddus ei fod yn credu bod angen ailgloriannu鈥檔 llwyr y modd yr ydym yn ystyried y berthynas rhwng y cyfryngau a democratiaeth. Mae鈥檙 Arglwydd Puttnam wedi siarad yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi ac yn y wlad yn gyffredinol ar Adroddiad Leveson, yn fwyaf diweddar i gynnig gwelliant i Adroddiad Leveson yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi.
Erbyn hyn mae鈥檙 holl bleidiau gwleidyddol wedi cytuno i greu siarter frenhinol a fyddai, mewn gwirionedd, yn sail i reoleiddio鈥檙 wasg Brydeinig a sicrhau yr un pryd ei hannibyniaeth oddi wrth y llywodraeth.
Mae 鈥榬 Arglwydd Puttnam wedi datgan ei fod yn gobeithio bod digwyddiadau diweddar yn 鈥渄angos ein bod, gyda鈥檔 gilydd, wedi troi dalen l芒n, a bod gwleidyddion o bob lliw bellach yn cydnabod fod rheoleiddio鈥檙 cyfryngau, a hynny 鈥榥 hollol annibynnol ar y llywodraeth, a chyda chefnogaeth pwerau gorfodaeth sifil perthnasol, yn un o warantau sylfaenol democratiaeth iach yn yr unfed ganrif ar hugain.鈥
Mae ffilmiau David Puttnam wedi ennill 10 Oscar a 25 BAFTA. Ef oedd Cadeirydd a Phrif Weithredwr Columbia Pictures rhwng 1986-88, ac mae wedi gwasanaethu ar sawl corff, gan gynnwys bod yn Llywydd y Film Distributors Association, Dirprwy Gadeirydd Channel 4 ac un o Ymddiriedolwyr Oriel y Tate a鈥檙 Amgueddfa Gwyddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2013