Cynllun cyfeillion ieithoedd yn ennill gwobr
Mae cynllun sy鈥檔 cysylltu disgyblion ysgol a myfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn dramor wedi derbyn gwobr fawreddog Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.
Ddydd Mercher, 26 Medi, dathlodd Ewrop y Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd ac i nodi鈥檙 achlysur, cafodd projectau iaith o bob rhan o Brydain eu cydnabod yn seremoni wobrwyo鈥檙 Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd. Ymhlith yr enillwyr roedd Llwybrau at Ieithoedd Cymru, a hynny am eu cynllun Mabwysiadu Dosbarth.
Cynllun sy鈥檔 cysylltu disgyblion ysgol yng Nghymru gyda myfyriwr israddedig tra ar flwyddyn dramor yw Mabwysiadu Dosbarth. Caiff y disgyblion gyfle i gwrdd 芒鈥檜 cyfaill fyfyriwr cyn iddo/iddi fynd dramor. Yn ystod y flwyddyn ganlynol, maen nhw鈥檔 cadw mewn cysylltiad. Mae鈥檙 myfyriwr yn anfon gwybodaeth am y wlad lle mae wedi mynd i fyw. Mae鈥檙 disgyblion yn rhannu鈥檙 profiad o ddarganfod dinas newydd mewn gwlad arall heb orfod symud o鈥檜 dosbarth. Bwriad Mabwysiadu Dosbarth yw tanio brwdfrydedd y disgyblion ynghylch dysgu ieithoedd, gan eu cyflwyno'r un pryd i鈥檙 posibilrwydd o dreulio amser dramor gyda chynlluniau lleoliadau myfyrwyr fel Erasmus.
Daeth yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn rhan o鈥檙 cynllun yn 2011 pan fu chwech o fyfyrwyr yn mabwysiadu dosbarth mewn ysgolion uwchradd lleol, lle buont yn cadw mewn cysylltiad 芒 nhw pan oeddent dramor. Mae'r cysylltiadau鈥檔 llwyddiannus iawn, ac mewn un ysgol leol, gwelwyd nifer uchaf y disgyblion a ddewisodd TGAU Ffrangeg yn dod o'r dosbarth a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun.
Dywedodd Ruben Chapella, Swyddog Cefnogi Llwybrau at Ieithoedd 鈥淢ae personoliaeth ac ewyllys unigryw ein Llysgenhadon Myfyrwyr Iaith yn ein gwneud mor falch, ac mae'r wobr haeddiannol hon yn brawf pellach o bwysigrwydd eu r么l i hyrwyddo ieithoedd tramor.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2012