Cynnydd mewn incwm ymchwil
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn yr incwm a enillwyd gan y Brifysgol ar gyfer ymchwil yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Croesawodd cyfarfod diweddar o Gyngor y Brifysgol adroddiad a oedd yn dangos bod gwerth y grantiau ymchwil a ddyfarnwyd i鈥檙 Brifysgol wedi cynyddu 142%; un a hanner gwaith yn fwy nag incwm y llynedd, o 拢25.5 miliwn i swm sy鈥檔 agos at 拢38 miliwn.
Yn ogystal 芒 grantiau sylweddol o鈥檙 Comisiwn Ewropeaidd, gwelodd y Brifysgol hefyd gynnydd sylweddol yn y grantiau a ddyfarnwyd gan Gynghorau Ymchwil y DU. Mae cystadleuaeth galed am y grantiau hyn ac maent yn cael eu dyfarnu i鈥檙 ymchwil orau a mwyaf perthnasol.
Gwelodd y Brifysgol hefyd gynnydd sylweddol yng ngwerth y contractau a gafwyd gan ddiwydiant yn y DU ac o adrannau llywodraeth y DU: roedd y rhain yn adlewyrchu lefelau cynnydd cyffelyb i鈥檙 cynnydd cyffredinol.
鈥淢ae鈥檙 Brifysgol wedi bod yn dilyn strategaeth er mwyn cryfhau ei phroffil ymchwil a gwella ansawdd yr ymchwil a wneir. Mae鈥檙 holl waith a wnaed ar draws y Brifysgol i gefnogi ymchwil yn dwyn ffrwyth. Mae鈥檙 cynnydd yn incwm ymchwil yn llinyn mesur da o statws ymchwil y Brifysgol,鈥 meddai鈥檙 Athro David Shepherd, a benodwyd yn ddiweddar yn Ddirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil a Menter yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2010