Cynrychioli'r Brifysgol ar C么r Cymru
C么r Aelwyd JMJ yn cystadlu yn C么r Cymru:Delwedd hawlfraint a thrwy garedigrwydd S4C
Bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau perfformiad gan , Prifysgol 黑料不打烊 nos Sul, 3 Mawrth am 8.00 y.h, wrth iddynt roi o鈥檜 gorau yn cystadlu mewn rownd gynderfynol yn y rhaglen boblogaidd, .
Ar 么l llwyddo yn y clyweliadau, bydd y c么r o 60 o leisiau yn cystadlu yn y categori C么r Ieuenctid, yn y gystadleuaeth sydd yn gweld enillwyr pob categori yn cystadlu am deitl C么r Cymru yn ffeinal y rhaglen.
Arweinydd y c么r yw Steffan Dafydd o Ruthun, sy鈥檔 fyfyriwr Cymraeg a Cherddoriaeth a鈥檙 cyfeilydd yw Catrin Llewelyn o Ddeiniolen, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn sy鈥檔 astudio Cerddoriaeth.
Meddai Steffan, 鈥淩ydym wedi cael profiad gwych hyd yma fel C么r Aelwyd yn cystadlu yn erbyn corau llawer mwy profiadol.鈥
鈥淓in caneuon oedd Alaw Mair gan Delwyn Si么n, Jonah gan Brian Hughes, trefniant hyfryd Gareth Glyn o Suo-G芒n a Gwinllan a Roddwyd, trefniant gan Caradog Williams.鈥
Steffan Dafydd yn arwain y C么r: Delwedd hawlfraint a thrwy garedigrwydd S4CWrth longyfarch y C么r ar gyrraedd y rowndiau sy鈥檔 cael eu darlledu, dywedodd Gethin Morgan, L:
鈥淢ae鈥檔 bleser gweld fod yr Aelwyd yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae鈥檙 myfyrwyr hyn yn glod enfawr i UMCB a Phrifysgol 黑料不打烊. Mae eu hymroddiad i鈥檙 c么r yn arbennig a hoffwn i fel Llywydd UMCB ddiolch i鈥檙 holl aelodau a鈥檙 swyddogion am eu gwaith caled.鈥
Roedd yr aelodau wedi mwynhau鈥檙 cystadlu.
鈥淥 ystyried ein bod yn g么r o fyfyrwyr ac yn g么r cymdeithasol, roedd cael y cyfle i ddangos ein doniau mewn cystadleuaeth genedlaethol yn gamp fawr. Roedd y profiad hwn yn un o fy uchafbwyntiau fel myfyrwraig hyd yma,鈥 oedd ymateb Elain Rhys, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn astudio Cerddoriaeth.
鈥淢ae hi鈥檔 braf iawn cael cynnal safon uchel yr Aelwyd ar 么l ein llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd wrth gystadlu yn erbyn corau eraill mor safonol,鈥 oedd ymateb Ioan Rees, myfyriwr yn yr ail flwyddyn sy鈥檔 astudio Cerddoriaeth.
鈥淩oedd hi鈥檔 braf gweld pawb yn dod at ei gilydd a rhannu cerddoriaeth, a chael seibiant o brysurdeb bywyd yn y brifysgol,鈥 meddai Alistair O鈥橫ahony, myfyriwr trydedd flwyddyn sy鈥檔 astudio Cerddoriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2019