Cynulliad yn Gwahodd Darlithydd i anerch cyfarfod
Bu'r Dr Llion Iwan yn anerch cyfarfod o rwydwaith cyfathrebwyr Cymru ddydd Mawrth, 12 Ebrill 2011, yn sgil gwhaoddiad i drafod sut y mae'r defnydd a dosbarthu newyddion wedi newid yng Nghymru.
"Mae'n braf fod y brifysgol yn cael gwahoddiad fel hyn ac yn gyfle i gyflwyno ffrwyth ein hymchwil i uwch swyddogion o'r sector gyhoeddus. Dengys yr ymateb ar 么l y cyflwyniad fod diddordeb mawr yn yr ymchwil, a fod y sector yn ymwybodol o'r gwaith ac yr arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Mangor,' meddai Llion sy'n ddarlithydd newyddiaduraeth yn ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
Cynhaliwyd y cyfarfod o Rwydwaith Cyfathrebwyr y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru (Coms Cymru) yng Ngaherdydd a Chyffordd Llandudno.
Dywedodd Mr Alan Parry, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata, "Roedd yn gyflwyniad defnyddiol a diddorol a roddodd ddigon i gyfathrebwyr y sector cyhoeddus gnoi cil drosto. Er bod y cyfnod hwn yn un anodd i鈥檙 sector cyhoeddus yn gyffredinol gyda nifer yn bwriadu torri'n sylweddol ar wasanaethau, mae disgwyliadau鈥檙 cyhoedd yn parhau i fod yn uchel ac yn aml mae pobl yn amharod iawn i newid. Roedd cyflwyniad Dr Iwan yn amlygu鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu darparwyr gwasanaethau cyhoeddus wrth geisio egluro鈥檙 penderfyniadau anodd sy鈥檔 rhaid eu gwneud o ganlyniad i鈥檙 newidiadau yn y cyfryngau yng Nghymru."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2011