Cytundeb prifysgolion dros ddatblygu cynaliadwy cyfandiroedd
Mae arbenigwyr o Brifysgol 黑料不打烊 ar eu ffordd i , Kampala, Uganda (MUK) yr wythnos hon (Chwefror 14-19) i lofnodi cytundeb pum mlynedd i gydweithio ar ddatblygu cynaliadwy. Bydd Prifysgol 黑料不打烊 yn cyfrannu arbenigedd rhoi datblygu cynaliadwy ar waith.
Bydd y Memorandwm o Gyd-Ddealltwriaeth (MODd) rhwng Prifysgolion 黑料不打烊 a Makerere yn darparu llwyfan cydweithredu o dan raglenni Cymuned Ewrop a gomisiynwyd yn ddiweddar ar Gyd-Ymchwil Affrica ac Ewrop ac Agenda Arloesi Rheoli Gwastraff, er mwyn hybu ymchwil ac arloesi cydweithredol. Gall y bartneriaeth hefyd ddenu myfyrwyr o Uganda ac o ddwyrain Affrica sy鈥檔 dod i'r DU am astudio ac ymchwil estynedig, i ddewis 黑料不打烊.
Bydd yr ymweliad yn ystyried ffyrdd i gydweithio ar gymorth technegol i Brifysgol Makerere a rhwydwaith ehangach y Rhaglen Clysterau Systemau Arloesi, (rhan o Fforymau Cystadleurwydd Ledled Affrica y Cyfandir a Dwyrain yr Affrica) weithredu effeithlonrwydd adnoddau. Hefyd, mae Prifysgol Makerere yn bwriadu gweithio gyda Phrifysgol 黑料不打烊 i ymgorffori cynaliadwyedd yn ei holl waith, mewn addysg, ymchwil a datblygu atebion ymarferol i fusnesau yn Uganda.
Dywedodd arweinydd t卯m yr ymwelwyr, Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol 黑料不打烊, "Mae cynaliadwyedd a'r amgylchedd yn symud i frig yr agenda rhyngwladol, ac mae ein harbenigedd fel Prifysgol yn ein galluogi ni i gynnig y wybodaeth a鈥檙 technegau i fusnesau a sefydliadau i fabwysiadu dulliau cynaliadwy amgenach, gan eu helpu i leihau costau, cynyddu cynhyrchiant ac ymestyn cyfrifoldeb amgylcheddol a cymdeithasol."
Bydd y trafodaethau rhwng y prifysgolion yn canolbwyntio ar:
- ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy, gan ganolbwyntio'n arbennig ar arbed ynni ac effeithlonrwydd adnoddau;
- rhannu profiadau ac arferion gorau cydweithio rhwng sefydliadau academaidd a busnes, gan anelu at ddatblygu clwstwr arloesi ar ddeunyddiau amgen;
- canfod prosiectau cydweithredol i鈥檙 dyfodol.
Pwrpas arall i鈥檙 ymweliad yw gosod sylfeini ar gyfer codi cyfleoedd masnachol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru sydd yn chwilio am bartneriaid busnesau bach a chanolig (BbaCh) tebyg yn Affrica. Y bwriad yw bod y berthynas 芒 Phrifysgol Makerere a'i rwydwaith o brifysgolion ar draws dwyrain Affrica yn agor drysau newydd ar gyfer busnesau datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Ychwanegodd Dr Young, "O ganlyniad i'n hymroddiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol 黑料不打烊 yn awr ymhlith y 10% uchaf o Brifysgolion gwyrddaf yn y byd, yn 么l tabl cynghrair ryngwladol o sefydliadau sy'n llesol i'r amgylchedd.
"Rydym yn datblygu enw da鈥檔 rhyngwladol fel arbenigwyr mewn datblygu cynaliadwy, nid yn unig ar gyfer corfforaethau mawr a chyrff cyhoeddus ond hefyd ar gyfer busnesau bach lle mae arbed pob ceiniog yng ngheg y sach yn hanfodol. Rydym yn gobeithio y bydd y berthynas 芒 Makerere yn ffynnu ac y bydd llawer o fyfyrwyr sy'n teithio i'r DU ar gyfer astudio ac ymchwil uwch yn dyfnhau鈥檙 cyswllt drwy ddewis dod i Fangor. "
Y ddirprwyaeth academaidd o Fangor sydd yn ymweld 芒 Uganda i osod y sylfeini a darganfod y potensial i gydweithio yw grwpiau Synnwyr Busnes Business Sense (SBBS) a Bio-Gyfansoddion y Brifysgol. Mae gan y ddau gr诺p blynyddoedd o brofiad yn cefnogi busnesau yng Nghymru a'r DU i fabwysiadu dulliau economegol ac amgylcheddol newydd ac arloesol ymarferol, drwy gymhwyso ymchwil.
Dan arweiniad Dr Young, mae SBBS wedi arbenigo ar ymgorffori cynaliadwyedd o fewn sefydliadau ac wedi datblygu i fod yn ganolbwynt corfforaethol agenda cynaliadwyedd o fewn Prifysgol 黑料不打烊. Mae Bio-Gyfansoddion yn defnyddio bioddeunyddiau, gan gynnwys gwastraff a phlanhigion, i lunio bio-gynnyrch ar gyfer diwydiant fel ffordd i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.
Dywedodd yr Athro John Ddumba Ssentamu, Is-Ganghellor Prifysgol Makerere, "Bydd cydweithio 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 yn ein galluogi i gynnig i'n myfyrwyr a鈥檔 partneriaid busnes fynediad at ei harbenigedd addysgol ac ymarferol. Maent yn bartneriaid delfrydol ar ein cyfer, ac ymhlith prifysgolion gorau鈥檙 byd ar gymhwyso atebion effeithiol i faterion fel effeithlonrwydd ynni, rheoli gwastraff, ailgylchu cynaliadwy ac ailddefnyddio deunyddiau. "
Bydd t卯m Prifysgol 黑料不打烊 yn ymroi gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Makerere i wreiddio ymarferion cynaliadwy ar draws y sefydliad, gan ymgorffori rhaglenni ymchwil ar waith i hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau parod (gwastraff ac ati) a mabwysiadu strategaethau a dulliau newydd cynaliadwy sydd yn lleihau costau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2015