Dadorchuddio gwreiddiau Celtaidd Arthur
Er i bortreadau diweddar o Arthur rhoi iddo acenion Saesneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Cocni Llundain, mae llyfr academaidd newydd sydd yn cael ei lansio heddiw (Chwefror 28) ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ei leoli鈥檔 gryf yng ngwledydd Celtaidd ac yn yr ieithoedd Celtaidd.
Cyhoeddir , gan Wasg Prifysgol Cymru ac fe鈥檌 golygwyd gan Ceridwen Lloyd-Morgan, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Dyma鈥檙 gyfrol gyntaf i gynnwys arolwg awdurdodol cynhwysfawr o lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn ieithoedd Celtaidd, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg.
Mae鈥檙 lansiad yn cymryd lle yng , sy鈥檔 ganolbwynt ar gyfer ymchwil rhyngwladol mewn astudiaethau Arthuraidd, ac mae鈥檔 dilyn symposiwm ar yr un pwnc a gynhaliwyd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 y llynedd.
Meddai 鈥榬 Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
鈥淏ydd y llyfr hwn yn newid meddyliau ar y pwnc am genhedlaeth. Does yr un gyfrol wedi ymdrin 芒鈥檙 holl ailddweud chwedlau Arthur o鈥檙 canol oesoedd i鈥檙 cyfoes yn yr holl ieithoedd Celtaidd. Mae鈥檙 penodau yn ymdrin 芒 thrafodaethau ysgolheigaidd mwyaf diweddar ar y pwnc ac yn agor cwysi newydd o ymchwil mewn astudiaethau鈥檙 Arthur Celtaidd.
鈥淒yna pam ein bod yn hynod falch o gael groesawu lansiad y gyfrol o bwys hon.鈥
鈥淏ydd y gyfrol yn adnodd hanfodol ar gyfer unrhyw fyfyriwr straeon yr Arthur Celtaidd. Mae鈥檔 darparu mewnwelediadau newydd ar sut esblygodd ffigwr Arthur o arweinydd llwyth rhyfelgar (warband) yng Ngogledd Prydain y Canol oesoedd cynnar, i fod yn Frenin gyda llys a oedd man cychwyn anturiaethau marchogol. Mae hefyd yn cwmpasu sut y mae cymeriadau a straeon wedi eu hail-ddychmygu, eu hail gyflunio a鈥檜 hail-ddehongli dros y canrifoedd hyd at heddiw.鈥
Meddai Dr Aled Llion Jones, o Ysgol Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae鈥檙 llyfr newydd yma yn rhoi cyfle unigryw i ni weld sut y mae鈥檙 chwedlau Cymraeg cynnar wedi datblygu fel thema gyffredin i鈥檙 holl ieithoedd Celtaidd.鈥
Mae gan Prifysgol 黑料不打烊 cyswllt hirhoedlog ag astudiaethau Celtaidd, ac mae鈥檙 Brifysgol yn cynnig cyfle prin i astudio llenyddiaeth Arthuraidd byd-eang ar lefel 么l radd. Mae gan y Brifysgol adnoddau heb eu hail, gan gynnwys llawer o lyfrau a llawysgrifau prin, ac mae鈥檙 Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd wedi croesawu dros 200 o ymweliadau ymchwil gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr o Brydain a thramor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019