Darlithydd Prifysgol 黑料不打烊 yn Feistres Defod y Coroni
Mae Dr Rhian Si芒n Hodges, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei dewis yn Feistres Defod y Coroni yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a鈥檙 Cylch. 
Dyma un o brif seremon茂au Eisteddfod yr Urdd lle y gwobrwyir prif lenor yr 诺yl. Eleni, mae Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili sydd yn ardal enedigol i Dr Hodges. Cynhelir y seremoni am 2.30yh ar ddydd Gwener yr 29ain o Fai ac yn ogystal, darlledir y seremoni ar S4C.
Yn 么l Dr Hodges:
鈥淢ae鈥檙 Eisteddfod hon yn un bersonol i mi ac mae鈥檔 braf iawn dod gartref i鈥檙 Cymoedd i brofi鈥檙 holl fwrlwm. Mae yna rywbeth arbennig am Gymreictod sir Gaerffili ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at gymryd rhan yn y dathliadau di-ri. Trwy ysgolion cyfrwng Cymraeg sir Gaerffili a鈥檙 Urdd Rhanbarth Gwent cefais y cyfle i ddysgu鈥檙 Gymraeg a鈥檌 defnyddio yn gymdeithasol drwy nifer o brofiadau bythgofiadwy. Rwy鈥檔 edrych ymlaen yn arw at y seremoni ac at yr Eisteddfod yn gyffredinol. Dewch yn llu i safle godidog Llancaiach Fawr!鈥
Mae鈥檙 Eisteddfod yr Urdd ymlaen 25 鈥 30 Mai 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2015