Darlithydd Saesneg yn wreiddiol o鈥檙 Almaen yn derbyn tlws arbennig am ddysgu Cymraeg am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae Karin yn Ddarlithydd yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.Mae darlithydd Saesneg o Brifysgol 黑料不打烊, Dr Karin Koehler, wedi ennill tlws Basil Davies am ei llwyddiant yn yr arholiad Cymraeg i oedolion CBAC. Dyfarnwyd y wobr i Karin, sy鈥檔 wreiddiol o鈥檙 Almaen, ar 么l iddi hi lwyddo i dderbyn y marc uchaf trwy Gymru gyfan yn yr arholiad Canolradd CBAC.
Derbyniodd yr un wobr llynedd ar lefel Mynediad, cystal ydi ei gallu i ddysgu Cymraeg neidiodd lefel (Sylfaen) ac ennill y tlws ar lefel Canolradd eleni.
Dywedodd Karin: 鈥淒w i鈥檔 falch iawn fy mod i wedi ennill Tlws Coffa Basil Davies eleni. Diolch i deulu Basil Davies am sefydlu鈥檙 gwobrau, sy鈥檔 dangos i ddysgwyr ar bob lefel faint mae siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi a chefnogi ein hymdrechion i ddysgu a defnyddio鈥檙 iaith. Hefyd, dw i鈥檔 ddiolchgar iawn bod Prifysgol 黑料不打烊 yn annog staff i ddatblygu sgil mor bwysig, a bod gen i gymaint o gydweithwyr a ffrindiau sy鈥檔 fy helpu i ymarfer a gwella. Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad anhygoel mewn amgylched mor gadarnhaol - mae o wedi agor llawer o ddrysau i mi. Mae tiwtoriaid Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn ysbrydoledig ac yn amyneddgar, felly mi faswn i鈥檔 argymell i bawb sy鈥檔 ystyried dysgu: ewch amdani!鈥
Wrth ymateb i鈥檞 llwyddiant, dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin:
鈥淢ae llwyddiant Karin yn rhannol o ganlyniad i鈥檞 sgiliau ieithyddol arbennig iawn ond hefyd mae鈥檔 dangos be sy鈥檔 bosib i unrhyw un sy鈥檔 ymroi i ddysgu iaith ac sy鈥檔 manteisio ar bob cyfle i鈥檞 defnyddio hi fel mae Karin wedi鈥檌 wneud. Yr hyn sy鈥檔 braf i鈥檞 weld r诺an ydy ei brwdfrydedd wrth gefnogi dysgwyr eraill trwy drefnu grwpiau darllen a chyfleoedd i gyfarfod yn anffurfiol i siarad Cymraeg. Dw i鈥檔 gobeithio鈥檔 fawr y
Karin yn cael ei llongyfarch gan Ifor Grufydd, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.bydd stori Karin yn ysbrydoliaeth i bobl eraill ddysgu Cymraeg yn yr ardal yma.鈥
Mae Tlws Basil Davies yn cael ei gydlynu trwy CBAC a鈥檙 Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a dyfarnwyd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.
Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddysgu Cymraeg yn yr ardal drwy ymweld 芒 dysgucymraeg.cymru/go
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2019