Darlithydd y Gyfraith yn ennill gwobr ymchwil bwysig
Evelyne Schmid o Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 a chyd-ennillwyr David Roth-Isigkeit (chwith) a Bernhard Blumenau (dde) yn derbyn eu gwobrwyon Dyfarnwyd gwobr ymchwil bwysig yr 鈥楢cademic Platform Switzerland UN鈥 i Evelyne Schmid, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊.
Rhwydwaith wedi ei lleoli yn Genefa yw 鈥楢cademic Platform Switzerland UN鈥 sy鈥檔 ceisio meithrin ymchwil arloesol a rhagorol ar faterion yn ymwneud 芒 chysylltiadau rhyngwladol a鈥檙 Cenhedloedd Unedig. Mae鈥檙 corff yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i wobrwyo traethodau rhagorol gan ymchwilwyr ifanc ar bwnc sy鈥檔 codi ymwybyddiaeth.
Mae Ms Schmid wrthi鈥檔 cwblhau doethuriaeth mewn cyfraith gyhoeddus ryngwladol yn y Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol ac Astudiaethau Datblygu i Raddedigion yn Genefa, ac roedd yn un o dri enillydd eleni. Enillodd wobr yn y categori i fyfyrwyr PhD am ei thraethawd "Economic, Social and Cultural Rights after Conflict: The Analysis of the United Nations Committee on ESCR and Potential Synergies with Transitional Justice". Yr enillydd arall yn y categori PhD oedd Bernhard Blumenau, tra enillwyd y categori Meistr gan David Roth-Isigkeit.
鈥淢ae derbyn y wobr hon yn anrhydedd, yn enwedig mewn cynhadledd mor bwysig," meddai Ms Schmid, a ymunodd ag Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 ym mis Tachwedd 2011. 鈥淢ae ennill y wobr hon yn rhoi hwb i mi barhau gyda fy ymchwil ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a system y Cenhedloedd Unedig. Ond yn bwysicach na hynny, mae'r wobr wedi fy rhoi mewn cysylltiad gyda Swyddfa鈥檙 Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol yn y Cenhedloedd Unedig, lle mae鈥檙 traethawd wedi ennyn llawer o ddiddordeb. Rwy鈥檔 awyddus i barhau gyda鈥檙 drafodaeth er mwyn i鈥檙 awgrymiadau a鈥檙 argymhellion sydd yn y traethawd gael eu hystyried yn nhrefn adrodd gwladwriaethau i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.鈥
Cyflwynwyd y wobr i Ms Schmid yng nghynhadledd flynyddol 鈥淎cademic Platform Switzerland UN鈥 a gynhaliwyd yn Genefa ar 1 Rhagfyr 2011. Thema cynhadledd eleni oedd comisiynau ymholi a theithiau casglu ffeithiau'r Cenhedloedd Unedig. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Michael Bothe, llywydd y Comisiwn Casglu Ffeithiau Dyngarol Rhyngwladol; Reed Brody, aelod o Gomisiwn Ymholi鈥檙 Cenhedloedd Unedig ar Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo 1997; Andrew Clapham, Athro yn y Gyfraith Ryngwladol; Philippe Kirsch, cyn-lywydd y Llys Troseddol Rhyngwladol a Phennaeth y Comisiwn Ymholi a benodwyd gan y Cyngor Hawliau Dynol i ymchwilio i droseddau yn erbyn hawliau dynol yn Libya 2011; a Vitit Muntarbhorn, Pennaeth y Comisiwn Ymholi ar C么te d鈥橧voire a benodwyd gan y Cyngor Hawliau Dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2011