Darlithydd yn cymryd rhan mewn cyfnewid staff i Wlad y Basg
Bu darlithydd o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar daith cyfnewid staff Erasmus i Wlad y Basg, yng Ngogledd Sbaen, yn ddiweddar.
Yn ystod ei hwythnos ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, Donostia, rhoddodd Dr Rhain Hodges, sef darlithydd yng Nghymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, darlithoedd a sesiynau gweithdy yn arbenigo mewn addysg ieithoedd lleiafrifol i fyfyrwyr Meistr. Tra yno, cafodd hefyd cyfle i astudio鈥檙 sefyllfa ieithyddol gan gymharu a gwrthgyferbynnu gyda鈥檙 sefyllfa yng Nghymru.
Bu Dr Hodges yn cyfrannu i鈥檙 dysgu ar raglen MA Amlieithrwydd y Brifysgol trwy gynnig darlithoedd yn s么n am effeithiau addysg cyfrwng Cymraeg ar gynllunio ieithyddol yng Nghymru, gan dynnu ar ei ymchwil sy鈥檔 trafod dewisiadau rhieni di-Gymraeg o addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhymni, Caerffili. Yn ogystal, buodd hi鈥檔 cynnig sesiynau ar siaradwyr ieithoedd lleiafrifol 鈥榥ewydd鈥 gan gyflwyno gwaith academaidd ar siaradwyr 鈥榥ewydd鈥 Cymraeg yng Nghymru.
Bwriad pennaf y daith oedd creu cysylltiadau allweddol a rhwydweithiau hollbwysig ar gyfer codi proffil y rhaglen MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol ym Mangor.
鈥淵n y pendraw, rydym yn gobeithio datblygu鈥檙 cyfnewid staff i fod yn gyfnewid myfyrwyr er mwyn rhoi cyfleoedd euraidd i fyfyrwyr Cymru a myfyrwyr Gwlad y Basg, fel ei gilydd, astudio sefyllfa ieithyddol y ddwy wlad gan gynhyrchu ymchwil cymharol, Ewropeaidd hollbwysig鈥, esboniodd Dr Hodges, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr y Cwrs MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012