Darlithydd yn trydar i helpu disgyblion astudio
Mae darlithydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol 黑料不打烊 yn paratoi i ddefnyddio Twitter fel adnodd adolygu ar gyfer disgyblion chweched dosbarth.
Fel rhan o raglen o waith er mwyn pontio'r bwlch rhwng ysgolion ac astudio Cymdeithaseg yn y Brifysgol, bydd Cynog Prys, Cymdeithasegydd sy鈥檔 arbenigo yn y defnydd o Gymraeg ar lein, yn cyflwyno cyngor adolygu o鈥檙 cyfrif Twitter @CymdeithasegUG yn ystod y tair wythnos cyn arholiadau lefel A yr haf yma.
Bydd y trydar cyntaf yn cael ei yrru ar Ddydd Iau, Ebrill 24ain gyda鈥檙 hashnod #cymdeithaseglefelA a bydd o leiaf un neges trydar yn crisialu gwybodaeth berthnasol am y pwnc yn cael ei ryddhau pob dydd.
Dywedodd Cynog: 鈥淢ae ymchwil sydd wedi cael ei gynnal gan yr ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn dangos bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn gwneud defnydd helaeth o wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter.
鈥淔el addysgwyr rydym o hyd yn chwilio am gyfleodd i gyfoethogi'r profiad dysgu a thrio pethau newydd. Mae natur gryno Twiter yn benthyg ei hun yn dda iawn i'r broses o adolygu a gall helpu ddisgyblion/myfyrwyr i grynhoi'r wybodaeth angenrheidiol i bwyntiau byr a chofiadwy. Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn defnyddio ffonau clyfar erbyn hyn ac yn gyfarwydd efo'r dechnoleg. Golygai hyn bod modd iddynt ddarllen y trydar ac adolygu yn unrhyw le (e.e. ar y bws neu yn y bath!)
鈥淵 gobaith yw y bydd creu ffrwd Twitter o gymorth i'r sawl sy'n astudio'r pwnc yn y Gymraeg at ei lefel A, ac yn codi ymwybyddiaeth o bosibiliadau astudio'r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol.鈥
Dywedodd Myfanwy Davies, sydd yn Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ac aelod o staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o dan eu Cynllun Staffio Academaidd: 鈥淎r hyn o bryd mae yna brinder mawr o ran adnoddau dysgu Cymdeithaseg lefel A yn y Gymraeg. O ganlyniad mae llawer o athrawon yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond troi at y Saesneg gan arwain at fyfyrwyr yn colli鈥檙 gallu i drafod eu pwnc yn y Gymraeg.
鈥淢ae yna ysgolion eraill ble mae鈥檙 athrawon yn cynhyrchu deunyddiau Cymraeg ei hunain ar ben pob dim arall. O ganlyniad i drafod gyda鈥檙 criw ymroddedig yna, penderfynom gynnig cymorth adolygu.
鈥淢ae Twitter yn gyfrwng delfrydol ar gyfer negeseuon cryno, uniongyrchol. Allwch chi wamalu o fewn 140 llythyren! Mae鈥檔 rhaid mynd at gnewyllyn pethau. Gobeithiwn mai dyma鈥檔 union sydd eisiau i roi trefn ar nodiadau lefel A!鈥
https://twitter.com/CymdeithasegUG
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014