Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ar restr hir gwobr o fri
Lisa Blower
Mae Lisa Blower, darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol 黑料不打烊 yn un o ddeg sydd wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr stori fer y Sunday Times EFG ar gyfer 2018.
Mae鈥檙 Wobr ryngwladol yn hybu ac yn dathlu rhagoriaeth y stori fer fodern ac yn denu ceisiadau o blith ysgrifenwyr gorau鈥檙 byd. Y Wobr o 拢30,000 yw鈥檙 un fwyaf hael ar gyfer stori fer yn yr iaith Saesneg.
Nid yw Lisa鈥檔 anghyfarwydd 芒 chystadlaethau o鈥檙 fath, gan iddi ennill cystadleuaeth stori fer y Guardian yn 2009. Roedd hefyd ar restr fer Gwobr Stori Fer y BBC yn 2013 ac wedi derbyn cymeradwyaeth uchel a lle ar restr fer Gwobr Bridport am dair blynedd yn olynol. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn y Guardian, Comma Press, The New Welsh Review, The Luminary, Short Story Sunday, ac ar Radio 4.
Mae cais Lisa, Abdul yn ymateb i argyfwng y ffoaduriaid ond o safbwynt rhywun sydd ag ymwneud anuniongyrchol gyda鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd nesaf. Mae鈥檔 adrodd stori bachgen 16 oed o Affganistan sy鈥檔 geisiwr noddfa, a鈥檙 daith y mae鈥檔 ei gymryd efo gweithiwr cymdeithasol o Gaint i Stoke on Trent.
Fel yr esbonia Lisa: 鈥淩hain yw鈥檙 straeon sydd fyth yn cael eu hadrodd ond sydd yn effeithio ar ein synnwyr o ddinasyddiaeth. Nid y daith i gyrraedd yma ydy鈥檙 daith yn ei gyfanrwydd. Gall y cyrhaeddiad a鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd wedyn fod yr un mor anodd, mor greulon, mor frawychus 芒鈥檙 hyn sydd eisoes wedi ei brofi, oherwydd r诺an rydych yn cael eich dosbarthu, eich beirniadu, eich categoreiddio, a鈥檆h neilltuo; gyda鈥檙 canlyniad eich bod yn dal i fod heb lais na lle. Hefyd, mae鈥檔 ymwneud ag agend芒u: rhai llywodraethol, personol, pobl yn dilyn gorchmynion.鈥
Bydd Lisa yn darllen y stori yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Y Llechan, cyfres Awdur ar Ymweliad ysgol Saesneg Prifysgol 黑料不打烊 ar 14 Chwefror am 6.30pm yn Pontio PL2. Mae鈥檙 digwyddiad hefyd yn cynnwys lansiad Beldezeki (Emma Press), casgliad diweddaraf cydweithwraig Lisa, Yr Athro Carol Rumens, bardd uchel ei pharch. Mae鈥檙 digwyddiad ar agor i鈥檙 cyhoedd gyda mynediad yn rhad ac am ddim.
Cyhoeddir rhestr fer y Wobr ddydd Sul Mawrth 18, gyda鈥檙 wobr i鈥檞 ddyfarnu Ddydd Iau Ebrill 27.
Cafodd nofel gyntaf Lisa Blower, Sitting Ducks (Fair Acre Press) ei gosod ar restr fer gwobr Arnold Bennett 2017, a鈥檌 gosod ar y rhestr hir gwobrau The Guardian Not the Booker 2016, y Rubery Award 2016 a The People鈥檚 Book Prize 2016. Hi oedd awdur preswyl cyntaf Amgueddfa ac Oriel Yr Amwythig, lle y cwblhaodd ei hail nofel, 鈥楪reen Blind鈥 ac mae newydd gyflwyno ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, 鈥業t鈥檚 Gone Dark over Bill鈥檚 Mother鈥檚鈥, sy鈥檔 deillio o鈥檌 magwraeth yn Stoke on Trent. Mae bellach yn gweithio ar ei thrydedd nofel, Pondweed, clytwaith o byllau, gwleidyddiaeth a phensiynwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2018