Datblygu ap i ddysgwyr Cymraeg
Bydd dysgwyr Cymraeg sy鈥檔 heidio i鈥檙 dosbarth yn yr hydref, fel dysgwyr newydd neu rai sy鈥檔 parhau i ddysgu鈥檙 iaith, yn falch o glywed y bydd 鈥榓p鈥 newydd ar gael cyn bo hir, sydd wedi ei ddatblygu鈥檔 arbennig ar eu cyfer.
惭补别鈥檙 ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wrthi鈥檔 cydweithio gyda chwmn茂au Moilin ac Optimwm i ddatblygu ap dysgu Cymraeg ar gyfer lefelau mynediad a sylfaen. Caiff yr ap ei lansio fis Medi a bydd yn cynnwys 19 templed rhyngweithiol wedi鈥檜 rhannu鈥檔 44 uned.
Treialwyd yr ap yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli a chafodd ymateb gwresog iawn. Roedd y dysgwyr yn mwynhau chwarae gyda鈥檙 templedi llenwi bylchau, paru llun a gair, strwythuro deialog, ymarfer ynganu a recordio llais. Wrth ymateb i鈥檙 templed sy鈥檔 dysgu sut i ynganu dywedodd un o鈥檙 dysgwyr,
鈥淚 really liked this activity. This is what I need, to be able to hear how it鈥檚 said and then practise. Speaking and hearing like this is ideal.鈥
Bydd yr ap lefel mynediad yn barod ddiwedd Medi ac ar gael ar gyfer dyfeisiadau Apple ac Android. Bydd lefel sylfaen ar gael erbyn mis Rhagfyr.
Bydd yr ap hefyd yn rhan o ymchwil PhD fydd yn edrych ar ba mor ddylanwadol yw鈥檙 gwahanol ddulliau o ddysgu electronig wrth ail-greu rhyngweithio dosbarth mewn cyd-destun Cymraeg i Oedolion. Cynhelir yr ymchwil gan Lowri Mair Jones sy鈥檔 gweithio fel Swyddog Technolegau Newydd i鈥檙 Ganolfan Cymraeg i Oedolion dan arweiniad Dr Enlli Thomas o鈥檙 . Meddai Dr Enlli Thomas,
"Mae'r math hwn o ddatblygiad yn hollbwysig yn y byd technolegol sydd ohoni, ac yn ennyn diddordeb dysgwyr yn yr iaith mewn nifer o wahanol ffyrdd - tu allan i wersi ffurfiol -mewn ffyrdd nad oedd yn bosib cyn hyn."
Lowri Mair Jones efo'r 'ap' ar dabled.Wrth s么n am y cyfnod treialu yn yr Eisteddfod dywedodd Lowri Mair Jones,
鈥淩oedd y cyfnod treialu cyntaf yn yr Eisteddfod yn llwyddiannus. Cawsom sylwadau rhagorol ac adeiladol iawn. Mae鈥檔 adeg gyffrous iawn gan ein bod yn lansio鈥檙 ap ac yn dechrau casglu data ymchwil. Nid oes ap dysgu Cymraeg mor rhyngweithiol 芒 hwn ar gael ar hyn o bryd. Gobeithio ein bod yn creu rhywbeth fydd o gymorth mawr i ddysgwyr Cymraeg.鈥
Bydd yr ap ar gael i鈥檞 lawrlwytho ddiwedd fis Medi a bydd y Ganolfan yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn yr ymchwil trwy dreialu鈥檙 ap a thechnolegau eraill. Os oes gennych ddiddordeb i fod yn rhan o鈥檙 ymchwil anfonwch e-bost at lowri.m.jones@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi datblygu rhaglen strwythuredig ac effeithiol i oedolion sy'n dysgu Cymraeg, a chaiff ystod eang o gyrsiau eu cynnig ar draws ogledd Cymru ar ran Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru.
Mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa o'r cyfuniad o gyrsiau sydd wedi eu graddio'n ofalus, tiwtoriaid hynod brofiadol ac ymrwymedig a gwasanaethau cefnogi o'r radd flaenaf. Bydd y rhan fwyaf o鈥檙 cyrsiau yn dechrau tua diwedd mis Medi. Am ragor wybodaeth, cyngor neu arweiniad yngl欧n 芒鈥檙 lefel fwyaf priodol i chi, ffoniwch 01248 382752.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2014