Datblygu neuaddau myfyrwyr y Santes Fair
Dewiswyd consortiwm o dri chwmni i ddatblygu safle preswyl Prifysgol 黑料不打烊 yn y Santes Fair. Bydd buddsoddiad o dros 拢30 miliwn yn dod 芒 bywyd newydd i safle nas defnyddiwyd i raddau helaeth ers blynyddoedd lawer.
Nod y Brifysgol yw ymateb i'r galw gan fyfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn sydd eisiau byw mewn neuaddau, gan alluogi cau'r neuaddau h欧n ar Safle'r Normal hefyd. Bydd y datblygiad newydd hwn o 600 o ystafelloedd yn galluogi i'r Brifysgol gau 200 o ystafelloedd a adeiladwyd yn y 1960au ar Safle'r Normal.
Ar hyn o bryd, mae nifer o fyfyrwyr yr ail a鈥檙 drydedd flwyddyn yn ceisio am le mewn neuaddau a reolir gan y Brifysgol, ond oherwydd diffyg lle mae鈥檔 rhaid iddynt droi at lety a rentir yn breifat ledled y ddinas.
Dywedodd Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol: 鈥淏ydd yr ystafelloedd newydd yn cynnwys yr holl gyfleusterau y byddai myfyrwyr heddiw yn disgwyl eu gweld ar gampws preswyl modern. Bydd yn cynnig y gorau i fyfyrwyr mewn cyfforddusrwydd a chynllun gyda chaffi bar, siop, lle golchi dillad a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd i gyd ar y safle. Wrth wraidd y cynllun mae ymrwymiad i ddarparu gwir ymdeimlad o gymuned gyda gwell amgylchedd i gymdeithasu a byw ynddo.鈥
Ychwanegodd yr Athro Tully: 鈥淒rwy ddatblygu safle'r Santes Fair, bydd y Brifysgol yn gwneud defnydd cynaliadwy o eiddo sydd ar gael eisoes, ac yn creu adeiladau newydd sy'n cyrraedd safonau rhagorol BREAAM, gan ddiwallu anghenion amgylcheddol cynyddol yr oes sydd ohoni. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys cynllun beiciau trydan er mwyn annog dulliau cynaliadwy o deithio.鈥
Yn ogystal 芒 chadw'r Cwadrangl gwreiddiol ac adeiladau 1906, bydd y datblygiad yn creu cymysgedd gwych o gyfleusterau a rennir o amgylch 鈥榮gw芒r y pentref鈥 newydd yng nghalon y gymuned. Y tri chwmni a ddewiswyd i ddatblygu'r project yw Cityheart Cyf, sy'n arwain y project, Vinci Construction UK Cyf, a CRM Cyf. FaulknerBrowns yw鈥檙 penseiri. Bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno cyn bo hir. Yn amodol ar ganiat芒d cynllunio, disgwylir i鈥檙 gwaith gael ei orffen erbyn Medi 2015 gyda'r gwaith dymchwel yn dechrau yng ngwanwyn 2014.
Yn ystod y datblygiad, mae'r Consortiwm wedi addo cefnogi'r gymuned a'r economi leol drwy ymrwymo i brentisiaethau newydd, lleoliadau gwaith, a chynlluniau cymunedol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2014