Dathlu Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Copi o La Mort D'Arthur a gyhoeddwyd yn 1816. Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn dathlu Astudiaethau Arthuraidd yn y Brifysgol drwy gynnal darlith gyhoeddus ac arddangosfa o lyfrau prin yn canolbwyntio ar y maes astudio hwn. Bydd y ddau ddigwyddiad yn dathlu rhodd o gasgliad sylweddol o lyfrau Arthuraidd i Lyfrgell Prifysgol 黑料不打烊 gan Gyngor Sir y Fflint.
Cynhelir y ddarlith, 鈥Arthur: the King that never left us' yn Narlithfa 2 Rrif Adeilad y Brifysgol am 5.00 ddydd Iau 16 Ebrill. Mae croeso i bawb i'r ddarlith. I gyd-fynd 芒鈥檙 ddarlith, bydd arddangosfa hefyd yn cael ei gosod yng nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, sy鈥檔 agored i'r cyhoedd. Gellir gweld yr arddangosfa yn ystod oriau agor rhwng 13 a 27 Ebrill 2015.
Dr Roger Simpson, academydd nodedig sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth Arthuraidd, fydd yn traddodi鈥檙 ddarlith. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr ar y chwedlau Arthuraidd, Camelot Regained, a Radio Camelot. Trwy gydol ei yrfa a鈥檌 gyhoeddiadau mae Dr Simpson wedi dangos sut mae'r chwedl Arthuraidd wedi ysbrydoli llenyddiaeth a digwyddiadau diwylliannol yn ystod y canrifoedd diweddar.
Bydd darlith ddarluniadol Dr Simpson yn talu teyrnged i wytnwch y chwedl Arthuraidd, fel yr eglura:
"Trwy ail-gyflwyno ei hun yn lliwgar mewn barddoniaeth, celf, cerddoriaeth, dram芒u, pasiantau, nofelau, a'r cyfryngau torfol modern, mae鈥檙 chwedl wedi cadw ei hap锚l barhaus dros y canrifoedd."
Y Chwedl Arthuraidd: Ddoe a Heddiw yn sgwrsio yng nghasgliadau 黑料不打烊 a Sir y Fflint
Roedd Arthur Rackham yn ddarluniwr poblogaidd yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20ed ganrif.Yn yr arddangosfa a drefnwyd gan Dr Raluca Radulescu, arbenigwr 黑料不打烊 ym maes llenyddiaeth Arthuraidd, ceir cyfle i weld llyfrau prin o鈥檙 casgliad o ddeunyddiau Arthuraidd a roddwyd yn ddiweddar i Brifysgol 黑料不打烊 gan Gyngor Sir y Fflint, ynghyd ag eitemau o gasgliad llyfrau prin ac archifau鈥檙 Brifysgol ei hun. Gyda鈥檌 gilydd, mae鈥檙 eitemau hyn o鈥檙 ddau gasgliad yn rhoi darlun llawn o ddatblygiad y chwedl Arthuraidd dros y canrifoedd. Maent yn cynnwys argraffiadau prin o waith Gildas, De Excidio Britanniae, y testun cyntaf i s么n am frwydr Mynydd Baddon, lle bu Arthur yn fuddugol yn erbyn y Sacsoniaid. Hefyd ceir enghreifftiau o argraffiadau prin o ramant boblogaidd Thomas Malory, Le Morte d鈥橝rthur, megis argraffiad 1634 Stansby (o gasgliad 黑料不打烊) ac adargraffiad 1933 o argraffiad a gyhoeddwyd gan Wynkyn de Worde n么l yn 1498 (o gasgliad Harries Sir y Fflint). Mae'r arddangosfa hefyd yn tywys yr ymwelydd drwy'r adfywiad Fictoraidd ym maes y chwedl Arthuraidd, gydag enghreifftiau gwych o argraffiadau cain o Idylls of the King gan Alfred, Arglwydd Tennyson, a ddarluniwyd gan Gustave Dor茅, a detholiad o argraffiadau o gyfieithiadau Charlotte Guest o'r Mabinogion.
Dywedodd Dr Radulescu: 鈥淢ae鈥檙 ffordd y mae鈥檙 ddau gasgliad fel petaent yn sgwrsio 芒鈥檌 gilydd wedi mynd tu hwnt i鈥檓 disgwyliadau, a dyna鈥檙 rheswm dros deitl yr arddangosfa. Rwyf wrth fy modd cael dysgu a chyflwyno astudiaethau Arthuraidd gan ddefnyddio enghreifftiau mor wych o argraffiadau cynnar o weithiau sy鈥檔 ymwneud ag Arthur, fel y cop茂au o waith Gildas a chasgliadau o broffwydoliaethau o鈥檙 unfed a鈥檙 ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal 芒鈥檙 cop茂au darluniadol gwych o Idylls Tennyson ac o waith Malory a gyhoeddwyd gan Rackham ar ddechrau鈥檙 ugeinfed ganrif.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2015