Dathlu Bydwraig y dyfodol
Cynhaliwyd digwyddiad 'Fy Nyfodol, Fy Mydwraig' yn ddiweddar yng Nghaerdydd i ddathlu lansiad safonau newydd y dyfodol. Nod hyn yw arfogi bydwragedd y dyfodol gyda'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu i ddarparu'r gofal mwyaf diogel a gorau i'r merched, y babanod a'r teuluoedd sydd dan ein gofal.
Aeth Alice Holman a Sioned Jones, ysgrifennydd a chadeirydd Cymdeithas Myfyrwyr Bydwreigiaeth Prifysgol 黑料不打烊, i'r digwyddiad gyda Sheila Brown, y Fydwraig Arweiniol dros Addysg yng ngogledd Cymru. Tra roeddent yn y digwyddiad, bu iddynt gyfarfod 芒'r bydwragedd arweiniol eraill dros addysg a myfyrwyr o Abertawe, Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Dywedodd Alice Holman am y profiad 鈥淩oeddem hefyd mor falch o gwrdd ag aelodau o鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn cynnwys y cadeirydd Phil Graf. Roedd yn anhygoel cwrdd 芒 rhai o gynghorwyr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn cynnwys yr Athro Mary Renfrew a'r Athro Gwendolen Bradshaw. Dyma rai o'r gweithwyr proffesiynol anhygoel a thalentog a ddaeth i'r digwyddiad, yn cynnwys yr holl fydwragedd eraill yn y dyfodol a fydd yn helpu i fynd 芒'r safonau newydd hyn ymlaen i'r dyfodol.鈥 Mae rhaglen bydwreigiaeth 黑料不打烊 yn gweld y mathau hyn o brofiad i fyfyrwyr fel elfen bwysig yn eu haddysg. Crynhodd Alice effaith y dydd arni trwy ddweud 鈥淩wyf wedi cael cymaint o鈥檙 diwrnod yng Nghaerdydd yn cynnwys cyfarfod a sgwrsio gyda鈥檙 holl fydwragedd dan hyfforddiant gwych eraill o bob rhan o Gymru, y broses o ddatblygu鈥檙 safonau newydd hyn a鈥檙 angen i ddarparu'r gofal gorau y gallwn yn y dyfodol.鈥

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2020