Dathlu Canmlwyddiant Adeilad y Brifysgol
Darlun o'r Brif Adeilad ar ei agoriad ym 1911Mae Prif Adeilad Prifysgol 黑料不打烊 yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni. I ddathlu hyn, a phwysigrwydd y rhan chwaraewyd gan chwarelwyr Gogledd Cymru mewn sefydlu鈥檙 Brifysgol, cynhelir Cynhadledd Canmlwyddiant ddydd Sadwrn 19eg Tachwedd am 9.30am, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol 黑料不打烊.
Bydd y gynhadledd, sydd ar agor i bawb, yn archwilio鈥檙 cysylltiadau rhwng Chwarelwyr Gogledd Cymru a datblygiad addysg yn y rhanbarth. Mae鈥檙 Ysgol Undydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb. Gofynnir i bawb sydd am fynychu cofrestru o flaen llaw drwy gysylltu 芒 Lynne Hughes ff么n: 01248 382776; e-bost: l.hughes@bangor.ac.uk.
Bydd cinio bwffe ar gael i bawb a fydd yn bresennol, a disgwylir i鈥檙 gynhadledd ddod i ben tua 2.45pm.
Y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad 鈥淵r angen am Addysg 鈥 ymateb Chwarelwyr Gogledd Cymru鈥 fydd yr Athro R. Merfyn Jones, Dr David Gwyn, Mrs Marian Gwyn, Ms Menna Baines a bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael. Teitlau'r darlithoed yw:
Yr Athro Merfyn Jones : 鈥淭omen a thwll 鈥 dyna i Gyd鈥? Cloriannu cyfraniad y chwarelwyr
Dr David Gwyn: 鈥淭he best and only school鈥 鈥 the quarry? The slate industry as an education
Ms Marian Gwyn: The Writing Slate 鈥 the Penrhyn Estate & Education
Ms Menna Baines: Ar Lechen L芒n: Caradog Prichard a鈥檌 yrfa
Dywedodd Cofrestrydd y Brifysgol, Dr David Roberts: 鈥淢ae鈥檙 cyswllt rhwng chwarelwyr llechi gogledd orllewin Cymru a sefydlu鈥檙 Brifysgol ym Mangor yn un o nodweddion gwych ac ysbrydoledig yn hanes y Brifysgol hon. Roedd chwarelwyr y Penrhyn 鈥 a nifer fawr o bobl eraill a oedd yn gweithio yng ngogledd Cymru 鈥 yn aml yn rhoi o鈥檜 cyflogau pitw, i gefnogi鈥檙 ymgyrch am addysg uwch yng ngogledd Cymru, ac mae鈥檔 briodol iawn i ni dalu sylw i鈥檞 cyfraniad.鈥
Ddydd Sadwrn 26 Tachwedd bydd Cerddorfa Symffoni y Brifysgol, hefyd yn cyflwyno Cyngerdd i ddathlu鈥檙 canmlwyddiant, gan gyflwyno tri darn a gyfansoddwyd yr un flwyddyn ag agoriad yr adeilad.
Mae arddangosfa o ddeunyddiau sy鈥檔 gysylltiedig ag agor yr adeilad,, sy鈥檔 cynnwys dogfennau o Archif y Brifysgol, yn cael ei chynnal yng nghoridor yr Is Ganghellor hyd at 16 Rhagfyr.
Cartref gwreiddiol y Brifysgol oedd adeiladau hen westy鈥檙 Penrhyn Arms, ond yn fuan iawn roedd yn rhy fach. Codwyd arian ar gyfer yr adeilad newydd yn lleol, gyda'r rhan fwyaf o'r arian yn dod o rhoddion gan bobl gyffredin ar draws gogledd Cymru, a 拢 20,000 oedd yn dod o'r llywodraeth. Cyfrannodd dinasyddion 黑料不打烊 拢6,000 i鈥檙 gronfa cyfrannwyd 拢50 gan Ysgol Friars yn benodol am gerflun o Goronwy Owen, sydd i鈥檞 weld ar dwr y Brifysgol. Sefydlwyd cronfeydd unigol ar gyfer yr holl fanylion ychwanegol, i lawr at gost y dderbynfa agor yr adeilad. Darlun o Brif adeilad y Brifysgol pan gafodd ei agor ym 1911.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2011