Dathlu Cyflogadwyedd Myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊
Guto Gwilym, Ysgol Seicoleg, un o鈥檙 cyflwynwyrCynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 sydd wedi cymryd rhan yng ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.
Roedd staff academaidd, myfyrwyr a chyflogwyr yn bresennol, ac roedd y digwyddiad yn gyfle i wobrwyo 9 Gwobr Ragoriaeth GCB i fyfyrwyr wedi eu henwebu gan eu ysgolion academaidd am gymryd camau positif i wella eu amcanion gyrfa ar 么l graddio yn yr haf.
Llongyfarchiadau i鈥檙 enillwyr: Marta Napodano (Saesneg), Ryan Jacques (Cyfrifiadureg), Stephanie Freeth (y Gyfraith), Sally Breese (Addysg), Leo Johnson (Gwyddorau Eigion), Jodie Colk (Seicoleg), Ben Price (Gwyddorau Chwaraeon), Faith Jones (Amgylchedd) and Emily Wilde (Cerddoriaeth).
Roedd y noson hefyd yn gyfle i wobrwyo Gwobr Rhagoriaeth mewn Menter gan Santander Universities i Bogdan Pop o鈥檙 Ysgol Fusnes, am ennill y nifer uchaf o bwyntiau XP yng nghategori menter ac arloesi Gwobr Cyflogadwyedd 黑料不打烊.
Bogdan Pop (canol) yn derbyn ei Wobr Rhagoriaeth mewn Menter gan Santander Universities gan Luke Ellis, Cyfarwyddwr Perthynas yn Santander Universities, a Lowri Owen, Rheolwraig Prosiectau Menter.Clywyd cyflwyniadau difyr ac amrywiol gan 5 o fyfyrwyr sy鈥檔 cwblhau GCB eleni am eu profiadau o ddatblygu eu cyflogadwyedd. Cafwyd cyflwyniadau gan Sarah Stokes (Seicoleg), Bogdan Pop (Busnes), Guto Gwilym (Seicoleg), Faith Jones (Amgylchedd) a Zack Zeiger (Seicoleg), gyda phob cyflwyniad yn amrywio o drafod profiadau gwirfoddoli, cymryd rhan yng Nghynllun Interniaeth GCB, cystadlaethau menter, profiadau tramor a darpariaeth ar gyfer chwilio am swydd raddedig cyntaf.
Siaradwr gwadd y noson oedd Iwan Thomas o鈥檙 Bwrdd Amcanion Economaidd yng Nghogledd Cymru, yn dilyn ei gyfraniad i ddigwyddiad yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn dod a chyflogwyr o鈥檙 sector ynni a myfyrwyr at eu gilydd. Siaradodd Iwan am gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion yng Ngogledd Cymru ac amlygu鈥檙 amcanion positif ar yr economi o gyflogi myfyrwyr a graddedigion.
Dywedodd John Jackson, Rheolwr GCB: 鈥淢ae鈥檙 digwyddiad wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae鈥檔 dda gweld cymaint o wahanol bobl yma i gefnogi鈥檙 myfyrwyr a鈥檙 wobr. Mae clywed myfyrwyr yn cyflwyno am eu profiadau cyflogadwyedd, a beth mae鈥檔 ei olygu iddyn nhw, yn helpu atgyfnerthu pwysigrwydd datblygu cyflogadwyedd tra yn y Brifysgol, a pha mor hanfodol ydi o fod y Wobr Gyflogadwyedd yn hyblyg fel fod myfyrwyr yn medru ei deilwra i鈥檞 diddordebau eu hunain.鈥
Mae modd gweld yr holl luniau o鈥檙 noson ar dudalen y Wobr Gyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2014