Dathlu hanes Iddewig Llandudno
Mae map yn dathlu hanes Iddewig Llandudno wedi'i greu gan Nathan Abrams, sy鈥檔 Athro mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Un o'r dwy siop yr oedd gan Wartski yn Llandudno.Mae'r map yn dathlu presenoldeb Iddewon yn Llandudno o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Mae'n cyd-fynd 芒'r map cynharach o hanes Iddewig 黑料不打烊 (Walking Jewish History a gyllidwyd gan Gyfrif Cyflymydd Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol).
Cynhyrchwyd y map mewn cydweithrediad 芒 Gareth Roberts o Broject Cerdded a Darganfod Menter Fachwen ac Amgueddfa Llandudno gyda chymorth Cronfa 黑料不打烊 Prifysgol 黑料不打烊. Mae Cronfa 黑料不打烊, trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr , yn rhoi grantiau sy鈥檔 cefnogi myfyrwyr a鈥檙 iaith a diwylliant Cymreig.
Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i rannu eu hatgofion am Iddewon Llandudno, gan gynnwys yr unigolion a redai鈥檙 siopau
Siop Gubbay's Oriental Stores yn Llandudno.adnabyddus, Wartski's, Blairman's a Gubbay's Oriental Stores.
"Mae gan Landudno a'r cyffiniau hanes Iddewig cyfoethog," meddai'r Athro Abrams.
"Ond yn anffodus, wrth i'r gymuned ddirywio a diflannu, a'r trawsnewid a fu ar y stryd fawr, does dim llawer o bobl yn gwybod yr hanes. Mae yno o flaen ein llygaid ond er hynny mae dan g锚l. Ac nid yn unig y mae'r map yn cofnodi'r hanes mae hefyd yn eich helpu chi i ddod o hyd i鈥檙 hanes hwnnw."
Symudodd Iddewon a oedd yn ffoi rhag erledigaeth yn nwyrain Ewrop - ac yn dymuno bywyd gwell ym Mhrydain - i Landudno ar ddiwedd y 19eg ganrif. Wrth i'r gymuned dyfu, agorwyd synagog a
Hysbyseb am gic koshers gan gigydd lleol.siop cigydd kosher hyd yn oed.
Cafwyd mewnlifiad pellach adeg yr Ail Ryfel Byd, yn faciw卯s ac yn bobl yn ffoi rhag y Nats茂aid.
Fe wnaethant integreiddio'n dda i fywyd lleol, gan ddysgu Cymraeg a chymryd rhan yn yr Eisteddfodau lleol.
Cawsant effaith drawsnewidiol ar y dref a ch芒nt eu cofio hyd heddiw.
Mae taith gerdded ac arddangosfa yn yr arfaeth pan ellir cynnal digwyddiadau o'r fath yn ddiogel.
Mae'r Athro Abrams a Gareth Roberts bellach yn gweithio ar arddangosfa am hanes Iddewig Ynys M么n a ariennir gan y Jewish Historical Society of England.
Mae'r Athro Abrams yn gobeithio y gellir cyflwyno'r fenter archifol hon mewn ardaloedd eraill lle bu Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru, sef Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Ond byddai angen cyllid pellach i wneud hynny.
Os hoffai unrhyw un gael copi am ddim o'r mapiau, cysylltwch 芒'r Athro Abrams. n.abrams@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2020