Dathlu Llenyddiaeth Cymru a Tsieina
Daeth awduron, beirdd, cyfieithwyr, academyddion a chyhoeddwyr o Gymru a Tsieina ynghyd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar i ddathlu cyfnewid a chydrannu llenyddiaeth rhwng y ddwy wlad, mewn digwyddiad a drefnwyd gan Yan Ying o Prifysgol 黑料不打烊 a Sioned Puw Rowlands o.
Roedd y symposiwm yn dathlu rhifyn arbennig o Foreign Literature and Art gan y Shanghai Translation Publishing House, a gyhoeddodd gyfieithiadau o lenyddiaeth o Gymru. Dyma鈥檙 tro cyntaf i lenyddiaeth gyfoes o Gymru gael ei gyflwyno i ddarllenwyr o Tsieina. Daeth y diwrnod i ben gyda noson o farddoniaeth a cherddoriaeth fyw.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i drafod sut i ddatblygu'r broses o gyfnewid ll锚n rhwng y ddau ddiwylliant, ac ymysg y siaradwyr roedd Mr WU Hong, Dirprwy Brif Olygydd y Shanghai Translation Publishing House a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn cynrychioli Cyfnewidfa L锚n Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor ac Athro yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊: "Mae'r digwyddiad rhagorol hwn wedi gosod cynsail pwysig ac wedi helpu i greu partneriaeth a fydd yn si诺r o ddwyn ffrwyth yn y dyfodol. Mae Cymru yn gallu cystadlu 芒'r goreuon pan ddaw at lenyddiaeth; mae'n genedl fach gyda thraddodiad llenyddol hynod o gyfoethog a bydd yn gyffrous gweld sut mae llenyddiaeth o Gymru'n cael ei dderbyn yn Tsieina. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weld gwir gyfnewid llenyddol ddwy ffordd a ddaw ag awduron o Tsieina at sylw darllenwyr yng Nghymru yn union fel mae llenorion o Gymru'n cael eu cyflwyno i ddarllenwyr yn Tsieina."
Dywedodd Yan Ying, darlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a Chyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Dwyrain Asiaidd a sefydlwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
"Roedd y digwyddiad hwn yn ddathliad o鈥檙 camau cadarnhaol a gymerwyd hyd yma i godi ymwybyddiaeth a diddordeb yn llenyddiaeth ein gilydd, a datblygwyd ar y gwaith hwnnw trwy lofnodi memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Prifysgol 黑料不打烊, Shanghai Translation Publishing House a Chyfnewidfa L锚n Cymru, sy'n gosod fframwaith ar gyfer cydweithio rhwng y tri sefydliad. Dylai hynny arwain at fwy o gyhoeddiadau a fydd yn cydrannu llenyddiaeth y ddwy wlad yn y dyfodol."
Ymysg y pynciau a drafodwyd oedd llenyddiaeth y byd yn Tsieina a Chymru, ffiniau llenyddiaeth Cymru a barddoni yn Tsieina. Yn ddiweddglo i鈥檙 prynhawn cafwyd trafodaeth ford gron a aeth i'r afael 芒 rhai o'r heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan gyfnewid llenyddiaeth rhwng y ddwy wlad.
Siaradodd yr awduron Angharad Price o Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊, a Francesca Rhydderch am eu profiadau o gyfieithu ac o gael cyfieithu eu gwaith i Tsiein毛eg, a chafwyd cyfraniad gan Hu DONG, un o ffigurau mwyaf unigryw llenyddiaeth gyfoes Tsieina yn trafod ei deimladau o bersbectif llenor alltud.
Daeth y diwrnod i ben gyda darlleniadau o farddoniaeth yn Tsiein毛eg, Cymraeg a Saesneg gan HU Dong U, Jason Walford Davies a Zoe Skoulding, yn ogystal 芒 pherfformiadau o gerddoriaeth Gymreig a Tsieineaidd draddodiadol. Roedd Ms SUN Yan, Prif Ysgrifennydd Swyddfa Ddiwylliannol Llysgenhadaeth Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn bresennol yn y cyngerdd gyda'r hwyr ac roedd y cyngerdd hefyd yn gyfle i ddathlu lansio Canolfan Astudiaethau Dwyrain Asiaidd newydd Prifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 bwriadu bod yn ganolbwynt i ymchwil academaidd Dwyrain Asiaidd yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2014